A30210:588
Taith y pererin, neu, siwrneu din o'r bid hwn i'r bid addaw dan gyffelybiaeth…Taith y pererin, neu, siwrneu dyn o'r byd hwn i'r byd addaw dan gyffelybiaeth…
Taith y pererin, neu, siwrneu din o'r bid hwn i'r bid addaw dan gyffelybiaeth breuddwyd in yr hwn a dangosir, in gyntaf, y mod o'i gychwŷnfa ef, in ail ei siwrneu ddyrŷs, in drydŷdd, ei ddyfodiad or diwedd i'r wlad ddymunol, teŷrnas nêf / o wneuthuriad John Bunyan, in saesnaeg ; y llyfr hwn a argraphwŷd in sasnaeg bymtheg o weithiau, ac unwaith or blaen in gymraeg o gyfieuthad cymmŷfg ddwŷlo.Taith y pererin, neu, siwrneu dyn o'r byd hwn i'r byd addaw dan gyffelybiaeth breuddwyd yn yr hwn a dangosir, yn gyntaf, y modd o'i gychwŷnfa ef, yn ail ei siwrneu ddyrŷs, yn drydŷdd, ei ddyfodiad or diwedd i'r wlad ddymunol, teŷrnas nêf / o wneuthuriad John Bunyan, yn saesnaeg ; y llyfr hwn a argraphwŷd yn sasnaeg bymtheg o weithiau, ac unwaith or blaen yn gymraeg o gyfieuthad cymmŷfg ddwŷlo.
Argraphwŷd in y Mwŷthig : Gan Thomas Jones, MDCLXXXXIX 1699Argraphwŷd yn y Mwŷthig : Gan Thomas Jones, MDCLXXXXIX 1699
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Yrawron wedi iddŷnt fined dross y gamfa in en hol, hwŷ a ddechrevasant ddyfeisio ynddŷnt eu hunain, pa beth a osodent ar y gamfa i rwŷstro'r sawl a ddolent ar eu hôl i ddyfod dan ddwŷlo'r Cawr Angbaith: A hwŷ a gyttunasant i gyfodi yno Golofn, ac i yscrifennu ar ei hystlus hi yr yscrifen ymma: Dyma'r gamfa sy'n tywyso i Castle Amheus, lle a mae'r Cawr-Anobaith in tario, yr hwn sŷ'n dirmygu Brenin y wlâd Nefol, ac in ceisio hefŷd ddifetha y Sanctaidd Bererinod (Lawyer gan hynnŷ o'n rhai a'u canlŷnasant hwŷ; a ddarllennasant yr yscrifen, ac a ddiangasant rhag y perŷgl ymma) Ac ar-ôl gwneuthur hynnŷ Cristion a Gobeithiol a ganasant'fel hŷn.
Yrawron wedi iddŷnt fyned dros y gamfa yn en hol, hwŷ a ddechreuasant ddyfeisio ynddŷnt eu hunain, pa beth a osodent ar y gamfa i rwŷstro'r sawl a ddolent ar eu hôl i ddyfod dan ddwŷlo'r Cawr Angbaith: A hwŷ a gyttunasant i gyfodi yno Golofn, ac i yscrifennu ar ei hystlus hi yr yscrifen ymma: Dyma'r gamfa sy'n tywyso i Castell Amheus, lle a mae'r Cawr-Anobaith yn tario, yr hwn sŷ'n dirmygu Brenin y wlâd Nefol, ac yn ceisio hefŷd ddifetha y Sanctaidd Bererinod (Llawer gan hynnŷ o'n rhai a'u canlŷnasant hwŷ; a ddarllennasant yr yscrifen, ac a ddiangasant rhag y perŷgl ymma) Ac ar-ôl gwneuthur hynnŷ Cristion a Gobeithiol a ganasant'fel hŷn.
Trwŷ droi o'n ford, ninny 'brofasom, Beth ŷw rhodio'n anghyfreithion: Gocheled y rhai a'n canlynant, Osgoi, a phrofi'r un aflwŷddiant.
Trwŷ droi o'n ffordd, nyni 'brofasom, Beth ŷw rhodio'n anghyfreithion: Gocheled y rhai a'n canlynant, Osgoi, a phrofi'r un aflwŷddiant.
Gwedi hynnŷ hwŷ a aethant ymlaen, hŷdoni ddaethant i'r mynyddoedd hyfrŷd, y rhai a berthynent i Arglwŷdd y Brŷn, am yr hwn a soniais i o'r blaen: fellu hwŷ a aethant i fynu ir mynyddoedd, i welled y Gerddi, a'r Perllannau, a'r Gwinllannoedd, a'r Ffynhonnau dyfroedd oedd yno; Lle'r yfasant o'r dŵr, ac yr ymolchasant, ac a fwŷdtasant o'r grawn-wîn in rhâd; Yrawron yr oedd ar bennau y mynyddoedd hŷn Fugeiliaid, in cadw eu Defaid; Ac yr oeddŷnt in sefŷll in agos i fîn y ford fawr: Y Pererinod gan hynnŷ a aethant attŷnt, a chan bwŷso ar eu ffŷnn (fêl a mae'n arferol i Bererinod deffygiol, pan fyddant in sefŷll i ymddiddan a neb ar y ford) hwŷ a ofŷnnasant iddŷnt, eiddo pwŷ ŷw'r mynyddoedd hyfrŷd ymma? A phwŷ a bia'r Defaid sŷ'n pori arnŷnt.