A30210:601
Taith y pererin, neu, siwrneu din o'r bid hwn i'r bid addaw dan gyffelybiaeth…Taith y pererin, neu, siwrneu dyn o'r byd hwn i'r byd addaw dan gyffelybiaeth…
Taith y pererin, neu, siwrneu din o'r bid hwn i'r bid addaw dan gyffelybiaeth breuddwyd in yr hwn a dangosir, in gyntaf, y mod o'i gychwŷnfa ef, in ail ei siwrneu ddyrŷs, in drydŷdd, ei ddyfodiad or diwedd i'r wlad ddymunol, teŷrnas nêf / o wneuthuriad John Bunyan, in saesnaeg ; y llyfr hwn a argraphwŷd in sasnaeg bymtheg o weithiau, ac unwaith or blaen in gymraeg o gyfieuthad cymmŷfg ddwŷlo.Taith y pererin, neu, siwrneu dyn o'r byd hwn i'r byd addaw dan gyffelybiaeth breuddwyd yn yr hwn a dangosir, yn gyntaf, y modd o'i gychwŷnfa ef, yn ail ei siwrneu ddyrŷs, yn drydŷdd, ei ddyfodiad or diwedd i'r wlad ddymunol, teŷrnas nêf / o wneuthuriad John Bunyan, yn saesnaeg ; y llyfr hwn a argraphwŷd yn sasnaeg bymtheg o weithiau, ac unwaith or blaen yn gymraeg o gyfieuthad cymmŷfg ddwŷlo.
Argraphwŷd in y Mwŷthig : Gan Thomas Jones, MDCLXXXXIX 1699Argraphwŷd yn y Mwŷthig : Gan Thomas Jones, MDCLXXXXIX 1699
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
A'r Bugeiliaid (meddaf) y rhai a elwid, Gwybodaeth, Profiad, Gwilaidwrus, a Phurdeb, a'u cymmerasant erbŷn eu dwŷlo, ac a'u dygasant hwŷ iw pebŷll; Ac a osodasant gar eu bron yr hŷn oedd barod ganthŷnt; A hwŷ a ddywedasant ymhellach wrthŷnt; Nyni a ewŷllysiem i chwi aros gyda ni ychydig o amser, fell a galloch fôd in gydnabyddus a ni; Ac hefŷd fell a caech ychydig o esmwŷthfŷd a diddanwch, trwŷ fôd in gyfrannogion o'r pethau daionus sŷdd iw cael in yr hyfrŷd Fynyddoedd ymma: A'r Pererinod a ddywedasant wrthŷnt eu bôd nhwŷ'n fodlon i aros; Ac fellu hwŷ a aethant iw gorphwŷsfa y nofon honno, canŷs yr oedd hi'n hwŷr jawn.
A'r Bugeiliaid (meddaf) y rhai a elwid, Gwybodaeth, Profiad, Gwilaidwrus, a Phurdeb, a'u cymmerasant erbŷn eu dwŷlo, ac a'u dygasant hwŷ iw pebŷll; Ac a osodasant gar eu bron yr hŷn oedd barod ganthŷnt; A hwŷ a ddywedasant ymhellach wrthŷnt; Nyni a ewŷllysiem i chwi aros gyda ni ychydig o amser, fel a galloch fôd yn gydnabyddus a ni; Ac hefŷd fel a caech ychydig o esmwŷthfŷd a diddanwch, trwŷ fôd yn gyfrannogion o'r pethau daionus sŷdd iw cael yn yr hyfrŷd Fynyddoedd ymma: A'r Pererinod a ddywedasant wrthŷnt eu bôd nhwŷ'n fodlon i aros; Ac fellu hwŷ a aethant iw gorphwŷsfa y nofon honno, canŷs yr oedd hi'n hwŷr iawn.
A'r horcu drannoeth mi glywn y Bugeiliaid ⟨p. 147⟩in galw ar Cristion a Gobeithiol, i ddyfodd gyda nhwŷ i rodio ar y mynyddoedd; Fellu hwŷ a aethant allań gyda hwŷnt, ac a rodiasant ennŷd, ac a ganffuant fôd y Tîr in ffrwŷthlon a hyfrŷd ar bôb tu; Ina ebŷr y Bugeiliaid wrth ei gllŷdd, a gawn ni ddangos rhŷw ryfeddodau i'r Pererinod hŷn; Ac wedi iddŷnt gyttuno i wneuthur fellu, hwŷ a'u dygsasant hwŷnt in gyntaf i ben y brŷn a elwid Cyfeiliorni, yr hwn oedd in serth jawn ar yr ystlus pellaf oddiwrthŷnt; A'r Bugeiliaid a archasant iddŷnt edrŷch tua'r gwaelod: Fellu Cristion a Gobeithiol a edrŷchasnt tua'r gwaelod tan y Brŷn; A hwŷ a welent wrth droed y Brŷn fintau fawr o ddynnion wedi eu dryllio in ddarnau gan gwŷmp a gawsent yno; Ina ebŷr Cristion pa beth ŷw hŷn? A'r Bugeiliaid a attebasant; Oni chlywsochi sôn am y rhai a gwnaed iddŷńt gam gredu in eu crefŷdd, trwŷ goelio athrawlaeth Hymeneus a Philetus, y rhai oddiwrth y gwirionedd a gyfeillornasant, gan ddywedŷd ddarfod yr adgyfodiad eusus (1 Timotheus 1.19, 20. 2 Timotheus 2.17, 18.) A thrwŷ ddywedŷd na bŷdd adgyfodiad ir meirw drachefn: A'r Pererinod a ddywedasant Do, ni a glywsom sôn am danŷnt; Ina ebŷr y Bugeiliaid wrthŷnt, y rhai a gwelwch chwi eu haelodau nhw in gorwedd in ddarnau wrth odreu y Brŷn ymma, ydŷw'r bobby hynnŷ: Ac fe'u gadawŷd hwŷ heb eu claddu hŷd y dŷdd hwn (fell a gwelwch) er siampl i eraill i ochelŷd na ddringont in rhŷ uchel, ac na ddelont in rhŷ agos i ymylau y mynŷdd hwn.