A30210:590
Taith y pererin, neu, siwrneu din o'r bid hwn i'r bid addaw dan gyffelybiaeth…Taith y pererin, neu, siwrneu dyn o'r byd hwn i'r byd addaw dan gyffelybiaeth…
Taith y pererin, neu, siwrneu din o'r bid hwn i'r bid addaw dan gyffelybiaeth breuddwyd in yr hwn a dangosir, in gyntaf, y mod o'i gychwŷnfa ef, in ail ei siwrneu ddyrŷs, in drydŷdd, ei ddyfodiad or diwedd i'r wlad ddymunol, teŷrnas nêf / o wneuthuriad John Bunyan, in saesnaeg ; y llyfr hwn a argraphwŷd in sasnaeg bymtheg o weithiau, ac unwaith or blaen in gymraeg o gyfieuthad cymmŷfg ddwŷlo.Taith y pererin, neu, siwrneu dyn o'r byd hwn i'r byd addaw dan gyffelybiaeth breuddwyd yn yr hwn a dangosir, yn gyntaf, y modd o'i gychwŷnfa ef, yn ail ei siwrneu ddyrŷs, yn drydŷdd, ei ddyfodiad or diwedd i'r wlad ddymunol, teŷrnas nêf / o wneuthuriad John Bunyan, yn saesnaeg ; y llyfr hwn a argraphwŷd yn sasnaeg bymtheg o weithiau, ac unwaith or blaen yn gymraeg o gyfieuthad cymmŷfg ddwŷlo.
Argraphwŷd in y Mwŷthig : Gan Thomas Jones, MDCLXXXXIX 1699Argraphwŷd yn y Mwŷthig : Gan Thomas Jones, MDCLXXXXIX 1699
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Gwedi hynnŷ hwŷ a aethant ymlaen, hŷdoni ddaethant i'r mynyddoedd hyfrŷd, y rhai a berthynent i Arglwŷdd y Brŷn, am yr hwn a soniais i o'r blaen: fellu hwŷ a aethant i fynu ir mynyddoedd, i welled y Gerddi, a'r Perllannau, a'r Gwinllannoedd, a'r Ffynhonnau dyfroedd oedd yno; Lle'r yfasant o'r dŵr, ac yr ymolchasant, ac a fwŷdtasant o'r grawn-wîn in rhâd; Yrawron yr oedd ar bennau y mynyddoedd hŷn Fugeiliaid, in cadw eu Defaid; Ac yr oeddŷnt in sefŷll in agos i fîn y ford fawr: Y Pererinod gan hynnŷ a aethant attŷnt, a chan bwŷso ar eu ffŷnn (fêl a mae'n arferol i Bererinod deffygiol, pan fyddant in sefŷll i ymddiddan a neb ar y ford) hwŷ a ofŷnnasant iddŷnt, eiddo pwŷ ŷw'r mynyddoedd hyfrŷd ymma? A phwŷ a bia'r Defaid sŷ'n pori arnŷnt.
Gwedi hynnŷ hwŷ a aethant ymlaen, hŷdoni ddaethant i'r mynyddoedd hyfrŷd, y rhai a berthynent i Arglwŷdd y Brŷn, am yr hwn a soniais i o'r blaen: fellu hwŷ a aethant i fynu ir mynyddoedd, i weled y Gerddi, a'r Perllannau, a'r Gwinllannoedd, a'r Ffynhonnau dyfroedd oedd yno; Lle'r yfasant o'r dŵr, ac yr ymolchasant, ac a fwŷdtasant o'r grawn-wîn yn rhâd; Yrawron yr oedd ar bennau y mynyddoedd hŷn Fugeiliaid, yn cadw eu Defaid; Ac yr oeddŷnt yn sefŷll yn agos i fîn y ffordd fawr: Y Pererinod gan hynnŷ a aethant attŷnt, a chan bwŷso ar eu ffŷnn (fêl a mae'n arferol i Bererinod deffygiol, pan fyddant yn sefŷll i ymddiddan a neb ar y ffordd) hwŷ a ofŷnnasant iddŷnt, eiddo pwŷ ŷw'r mynyddoedd hyfrŷd ymma? A phwŷ a bia'r Defaid sŷ'n pori arnŷnt.
Bugeiliaid. Y mynyddoedd ymma ydŷnt D•• Immanuel, ac i maent hwŷ yngolwg ei Ddimas ef; Ei eiddo ef ydŷw'r Defaid hefŷd, Ac efe a roes ei Einioes ar lawr drostŷnt.
CRITSION. Ai dymma'r ford i'r Ddinas Nefol?
CRITSION. Ai dymma'r ffordd i'r Ddinas Nefol?