A30210:617
Taith y pererin, neu, siwrneu din o'r bid hwn i'r bid addaw dan gyffelybiaeth…Taith y pererin, neu, siwrneu dyn o'r byd hwn i'r byd addaw dan gyffelybiaeth…
Taith y pererin, neu, siwrneu din o'r bid hwn i'r bid addaw dan gyffelybiaeth breuddwyd in yr hwn a dangosir, in gyntaf, y mod o'i gychwŷnfa ef, in ail ei siwrneu ddyrŷs, in drydŷdd, ei ddyfodiad or diwedd i'r wlad ddymunol, teŷrnas nêf / o wneuthuriad John Bunyan, in saesnaeg ; y llyfr hwn a argraphwŷd in sasnaeg bymtheg o weithiau, ac unwaith or blaen in gymraeg o gyfieuthad cymmŷfg ddwŷlo.Taith y pererin, neu, siwrneu dyn o'r byd hwn i'r byd addaw dan gyffelybiaeth breuddwyd yn yr hwn a dangosir, yn gyntaf, y modd o'i gychwŷnfa ef, yn ail ei siwrneu ddyrŷs, yn drydŷdd, ei ddyfodiad or diwedd i'r wlad ddymunol, teŷrnas nêf / o wneuthuriad John Bunyan, yn saesnaeg ; y llyfr hwn a argraphwŷd yn sasnaeg bymtheg o weithiau, ac unwaith or blaen yn gymraeg o gyfieuthad cymmŷfg ddwŷlo.
Argraphwŷd in y Mwŷthig : Gan Thomas Jones, MDCLXXXXIX 1699Argraphwŷd yn y Mwŷthig : Gan Thomas Jones, MDCLXXXXIX 1699
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Anwŷbodaeth. Fell a mae pobl ddâ eraill in mined ebŷr yntef.
Anwŷbodaeth. Fel a mae pobl ddâ eraill yn myned ebŷr yntef.
CRISTION. And pa beth sŷdd gennŷch iw ddangos yno, fell a bo iddŷnt agor y porth i chwi?
CRISTION. Ond pa beth sŷdd gennŷch iw ddangos yno, fel a bo iddŷnt agor y porth i chwi?
Anwŷbodaeth. Mi a wn ewŷllŷs fy Arglwŷdd, ac a fum in Fucheddwr dâ, yr wŷf in talu i bawb eu heiddo; Yr wŷfi'n Gweddio, in Ymprydio, in Talu fy Negymmau, ac in rhoddi elusenau, ac mi a adewais fy ngwlâd er mwŷn ill yr wŷf in mined iddo.
Anwŷbodaeth. Mi a wn ewŷllŷs fy Arglwŷdd, ac a fum yn Fucheddwr dâ, yr wŷf yn talu i bawb eu heiddo; Yr wŷfi'n Gweddio, yn Ymprydio, yn Talu fy Negymmau, ac yn rhoddi elusenau, ac mi a adewais fy ngwlâd er mwŷn y lle yr wŷf yn myned iddo.
CRISTION. And ni ddaethost di i mewn trwŷ'r porth cyfŷng, yr hwn sŷ ymhen y ford ymma; And dydi a ddaethost i mewn i'r ford hon trwŷ'r Llwŷbŷr cam accw; Ac am hynnŷ yr wŷf in ofni pa beth bynnag yr wŷt ti in ei dybied amdanat dy hun; pan ddelo'r Dŷdd cyfrif a rhoddir i'th erbŷn, may lleider ac yspeiliwr wŷt, in lle cael mined i mewn i'r Ddinas.