A30210:656
Taith y pererin, neu, siwrneu din o'r bid hwn i'r bid addaw dan gyffelybiaeth…Taith y pererin, neu, siwrneu dyn o'r byd hwn i'r byd addaw dan gyffelybiaeth…
Taith y pererin, neu, siwrneu din o'r bid hwn i'r bid addaw dan gyffelybiaeth breuddwyd in yr hwn a dangosir, in gyntaf, y mod o'i gychwŷnfa ef, in ail ei siwrneu ddyrŷs, in drydŷdd, ei ddyfodiad or diwedd i'r wlad ddymunol, teŷrnas nêf / o wneuthuriad John Bunyan, in saesnaeg ; y llyfr hwn a argraphwŷd in sasnaeg bymtheg o weithiau, ac unwaith or blaen in gymraeg o gyfieuthad cymmŷfg ddwŷlo.Taith y pererin, neu, siwrneu dyn o'r byd hwn i'r byd addaw dan gyffelybiaeth breuddwyd yn yr hwn a dangosir, yn gyntaf, y modd o'i gychwŷnfa ef, yn ail ei siwrneu ddyrŷs, yn drydŷdd, ei ddyfodiad or diwedd i'r wlad ddymunol, teŷrnas nêf / o wneuthuriad John Bunyan, yn saesnaeg ; y llyfr hwn a argraphwŷd yn sasnaeg bymtheg o weithiau, ac unwaith or blaen yn gymraeg o gyfieuthad cymmŷfg ddwŷlo.
Argraphwŷd in y Mwŷthig : Gan Thomas Jones, MDCLXXXXIX 1699Argraphwŷd yn y Mwŷthig : Gan Thomas Jones, MDCLXXXXIX 1699
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Ina in fy mreuddwŷd, mi a glywn yr un disclair in gorchymŷn iddŷnt orwedd i lawr; Yr hŷn pan wnaethant, efe a'u curodd hwŷ'n dost, i wneuthur iddŷnt gofio in well y ford ddâ, in yr hon a dylasent rodio ynthi; Ac wrth eu chwipio hwŷnt, efe a ddywedodd, Yr wŷfi in argyoeddi, ac in ceryddu y sawl yr wŷf in eu caru: Am hynnŷ bydded Zêl gennit, ac edifarha: Ac wedi iddo wneuthur fellu, efe a archodd iddŷnt fined iw ford; Ac i fôd in fwŷ gofalus i ddal sulw rhagllaw ar Hyfforddiadau eraill y Bugeiliaid (Deuteronomium 25.2. 2 Chronicl 6.26, 27. Datcuddiad 3.19.) Fellu hwŷ a ddiolchasant iddo am ei holl garedigrwŷdd, ac a aethant in araf rhŷd y ford union dan ganu.
Yna yn fy mreuddwŷd, mi a glywn yr un disclair yn gorchymŷn iddŷnt orwedd i lawr; Yr hŷn pan wnaethant, efe a'u curodd hwŷ'n dost, i wneuthur iddŷnt gofio yn well y ffordd ddâ, yn yr hon a dylasent rodio ynthi; Ac wrth eu chwipio hwŷnt, efe a ddywedodd, Yr wŷfi yn argyoeddi, ac yn ceryddu y sawl yr wŷf yn eu caru: Am hynnŷ bydded Zêl gennit, ac edifarha: Ac wedi iddo wneuthur fellu, efe a archodd iddŷnt fyned iw ffordd; Ac i fôd yn fwŷ gofalus i ddal sulw rhagllaw ar Hyfforddiadau eraill y Bugeiliaid (Deuteronomium 25.2. 2 Chronicl 6.26, 27. Datcuddiad 3.19.) Fellu hwŷ a ddiolchasant iddo am ei holl garedigrwŷdd, ac a aethant yn araf rhŷd y ffordd union dan ganu.
Y sawl sŷ'n rhodio llwŷbrau'r Saint, Edrychwch faint iw'r archoll, A gafodd Pererinod gwâr; Am fined ar gyfyrgoll. Mewn rhwŷdau, maglau, myglŷd maith, Eu dal in gaeth a wnaethwŷd, Am eu gwaith nhw'n gwrthod gwîr Gynghorlon difŷr, dofwŷd. Gwîr ydŷw iw gwaredŷdd pûr, Eu dwŷn o'u cûr, a'u cysludd: And derbŷniasant fflangell drwch, Am hŷn cymerwch rybŷdd.
Y sawl sŷ'n rhodio llwŷbrau'r Saint, Edrychwch faint iw'r archoll, A gafodd Pererinod gwâr; Am fyned ar gyfyrgoll. Mewn rhwŷdau, maglau, myglŷd maith, Eu dal yn gaeth a wnaethwŷd, Am eu gwaith nhw'n gwrthod gwîr Gynghorlon difŷr, dofwŷd. Gwîr ydŷw iw gwaredŷdd pûr, Eu dwŷn o'u cûr, a'u cysludd: Ond derbŷniasant fflangell drwch, Am hŷn cymerwch rybŷdd.