A30210:676
Taith y pererin, neu, siwrneu din o'r bid hwn i'r bid addaw dan gyffelybiaeth…Taith y pererin, neu, siwrneu dyn o'r byd hwn i'r byd addaw dan gyffelybiaeth…
Taith y pererin, neu, siwrneu din o'r bid hwn i'r bid addaw dan gyffelybiaeth breuddwyd in yr hwn a dangosir, in gyntaf, y mod o'i gychwŷnfa ef, in ail ei siwrneu ddyrŷs, in drydŷdd, ei ddyfodiad or diwedd i'r wlad ddymunol, teŷrnas nêf / o wneuthuriad John Bunyan, in saesnaeg ; y llyfr hwn a argraphwŷd in sasnaeg bymtheg o weithiau, ac unwaith or blaen in gymraeg o gyfieuthad cymmŷfg ddwŷlo.Taith y pererin, neu, siwrneu dyn o'r byd hwn i'r byd addaw dan gyffelybiaeth breuddwyd yn yr hwn a dangosir, yn gyntaf, y modd o'i gychwŷnfa ef, yn ail ei siwrneu ddyrŷs, yn drydŷdd, ei ddyfodiad or diwedd i'r wlad ddymunol, teŷrnas nêf / o wneuthuriad John Bunyan, yn saesnaeg ; y llyfr hwn a argraphwŷd yn sasnaeg bymtheg o weithiau, ac unwaith or blaen yn gymraeg o gyfieuthad cymmŷfg ddwŷlo.
Argraphwŷd in y Mwŷthig : Gan Thomas Jones, MDCLXXXXIX 1699Argraphwŷd yn y Mwŷthig : Gan Thomas Jones, MDCLXXXXIX 1699
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
CRISTION. Na wnawn (ebŷr ef) mewn môdd in y Bŷd, rhag wedi cyscu na ddeffrôm mwŷ.
CRISTION. Na wnawn (ebŷr ef) mewn môdd yn y Bŷd, rhag wedi cyscu na ddeffrôm mwŷ.
Gobeithiol. Pa ham fy mrawd, melus ŷw hûn y gweithwr, fe allay yr hybir ni os cyscwn ychydig.
Gobeithiol. Pa ham fy mrawd, melus ŷw hûn y gweithwr, fe allai yr hybir ni os cyscwn ychydig.
CRISTION. Onid ydŷch chwi'n cofio i un o'r Bugeiliaid berry i ni ochelŷd rhag y tîr a felltithwŷd? Ei feddwl ef wrth ddywedŷd fellu oedd, am i ni ochelŷd cyscu, am hynnŷ na chyscwn fell rhai eraill, and Gwiliwn a byddwn sobor (1 Thesoloniaid 5.6.)
CRISTION. Onid ydŷch chwi'n cofio i un o'r Bugeiliaid beri i ni ochelŷd rhag y tîr a felltithwŷd? Ei feddwl ef wrth ddywedŷd fellu oedd, am i ni ochelŷd cyscu, am hynnŷ na chyscwn fel rhai eraill, ond Gwiliwn a byddwn sobor (1 Thesoloniaid 5.6.)