A30210:688
Taith y pererin, neu, siwrneu din o'r bid hwn i'r bid addaw dan gyffelybiaeth…Taith y pererin, neu, siwrneu dyn o'r byd hwn i'r byd addaw dan gyffelybiaeth…
Taith y pererin, neu, siwrneu din o'r bid hwn i'r bid addaw dan gyffelybiaeth breuddwyd in yr hwn a dangosir, in gyntaf, y mod o'i gychwŷnfa ef, in ail ei siwrneu ddyrŷs, in drydŷdd, ei ddyfodiad or diwedd i'r wlad ddymunol, teŷrnas nêf / o wneuthuriad John Bunyan, in saesnaeg ; y llyfr hwn a argraphwŷd in sasnaeg bymtheg o weithiau, ac unwaith or blaen in gymraeg o gyfieuthad cymmŷfg ddwŷlo.Taith y pererin, neu, siwrneu dyn o'r byd hwn i'r byd addaw dan gyffelybiaeth breuddwyd yn yr hwn a dangosir, yn gyntaf, y modd o'i gychwŷnfa ef, yn ail ei siwrneu ddyrŷs, yn drydŷdd, ei ddyfodiad or diwedd i'r wlad ddymunol, teŷrnas nêf / o wneuthuriad John Bunyan, yn saesnaeg ; y llyfr hwn a argraphwŷd yn sasnaeg bymtheg o weithiau, ac unwaith or blaen yn gymraeg o gyfieuthad cymmŷfg ddwŷlo.
Argraphwŷd in y Mwŷthig : Gan Thomas Jones, MDCLXXXXIX 1699Argraphwŷd yn y Mwŷthig : Gan Thomas Jones, MDCLXXXXIX 1699
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
CRISTION. Je, hynnŷ ŷw fy meddwl i.
CRISTION. Ie, hynnŷ ŷw fy meddwl i.
Gobeithiol. Myfi a fum ennŷd o amser in cymmerŷd hyfrydwch in y pethau a welid, ac a werthid in ein fair ni; Pethau 'rwŷf in credu yrawron (pa baswn in eu canlŷn in wastadol) a fasent in fy nwŷn i golledigaeth a distrŷw.
Gobeithiol. Myfi a fum ennŷd o amser yn cymmerŷd hyfrydwch yn y pethau a welid, ac a werthid yn ein ffair ni; Pethau 'rwŷf yn credu yrawron (pa baswn yn eu canlŷn yn wastadol) a fasent yn fy nwŷn i golledigaeth a distrŷw.
CRISTION. Pa bethau oeddent hwŷ?
Gobeithiol. Hôll drysorau a chyfoeth y Bŷd; Ac hefŷd mi a gymmerais hyfrydwch mawr mwen Glothineb, Meddwdod, Tyngu, Rhegu (gan offrwm fy enaid ir Diawl) dywedŷd Celwŷdd, Aflendid, Torri'r Sabbath; A pha beth nis gwnawn i er go sod o honof fy enaid mewn cyflwr o ddamnedigaeth ⟨p. 170⟩