A30210:711
Taith y pererin, neu, siwrneu din o'r bid hwn i'r bid addaw dan gyffelybiaeth…Taith y pererin, neu, siwrneu dyn o'r byd hwn i'r byd addaw dan gyffelybiaeth…
Taith y pererin, neu, siwrneu din o'r bid hwn i'r bid addaw dan gyffelybiaeth breuddwyd in yr hwn a dangosir, in gyntaf, y mod o'i gychwŷnfa ef, in ail ei siwrneu ddyrŷs, in drydŷdd, ei ddyfodiad or diwedd i'r wlad ddymunol, teŷrnas nêf / o wneuthuriad John Bunyan, in saesnaeg ; y llyfr hwn a argraphwŷd in sasnaeg bymtheg o weithiau, ac unwaith or blaen in gymraeg o gyfieuthad cymmŷfg ddwŷlo.Taith y pererin, neu, siwrneu dyn o'r byd hwn i'r byd addaw dan gyffelybiaeth breuddwyd yn yr hwn a dangosir, yn gyntaf, y modd o'i gychwŷnfa ef, yn ail ei siwrneu ddyrŷs, yn drydŷdd, ei ddyfodiad or diwedd i'r wlad ddymunol, teŷrnas nêf / o wneuthuriad John Bunyan, yn saesnaeg ; y llyfr hwn a argraphwŷd yn sasnaeg bymtheg o weithiau, ac unwaith or blaen yn gymraeg o gyfieuthad cymmŷfg ddwŷlo.
Argraphwŷd in y Mwŷthig : Gan Thomas Jones, MDCLXXXXIX 1699Argraphwŷd yn y Mwŷthig : Gan Thomas Jones, MDCLXXXXIX 1699
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Gobeithiol. Mi a feddyliais ynof fy hun fell hŷn; Myfi trwŷ fy mhechodau a redais ar yscôr ymhell in Llyfr Duw; Ac nad oedd fy ngwellhâd presennol in talu mo'r Dyled hwnnw; Ac am hynnŷ a dylwn i feddwl in wastadol (dan fy hôll gyfnewidiadau) pa fôdd a rhyddheid fi oddiwrth y ddamnedigaeth oedd ddyledus i mi am fy nhrosseddiadau o'r blaen.
Gobeithiol. Mi a feddyliais ynof fy hun fel hŷn; Myfi trwŷ fy mhechodau a redais ar yscôr ymhell yn Llyfr Duw; Ac nad oedd fy ngwellhâd presennol yn talu mo'r Dyled hwnnw; Ac am hynnŷ a dylwn i feddwl yn wastadol (dan fy hôll gyfnewidiadau) pa fôdd a rhyddheid fi oddiwrth y ddamnedigaeth oedd ddyledus i mi am fy nhrosseddiadau o'r blaen.
CRISTION. Deunŷdd dâ ydoedd hynnŷ, ertolwg ewch rhagoch.
Gobeithiol. Y peth arall am blinodd (er pan ddechrevais in hwŷr wellhâu fy muchedd) ydoedd hŷn; Self pan edrychwŷf in fanwl ar y pethau goreu yr ydwŷf in eu gwneuthur yrawron; yr wŷf in canfod pechod in wastadol (je pechodau newŷdd) ynghymŷsc a'm gweithredoedd goreu; Hŷd onid ydwŷf in rhwŷm yrawron i farnu (er fy hôll feddyliau angall, a baich amdanaf fy hun, a'm Dyledfwŷddau o'r blaen) ddarfod i mi droseddu digon wrth geisio cyflawni un dyledswŷdd, i berry fy nanfon i Uffern, ped fasai fy muchedd gŷnt in ddifai.
Gobeithiol. Y peth arall am blinodd (er pan ddechreuais yn hwŷr wellhâu fy muchedd) ydoedd hŷn; Sef pan edrychwŷf yn fanwl ar y pethau goreu yr ydwŷf yn eu gwneuthur yrawron; yr wŷf yn canfod pechod yn wastadol (ie pechodau newŷdd) ynghymŷsc a'm gweithredoedd goreu; Hŷd onid ydwŷf yn rhwŷm yrawron i farnu (er fy hôll feddyliau angall, a baich amdanaf fy hun, a'm Dyledfwŷddau o'r blaen) ddarfod i mi droseddu digon wrth geisio cyflawni un dyledswŷdd, i beri fy nanfon i Uffern, ped fasai fy muchedd gŷnt yn ddifai.