TAITH Y PERERIN: NEU SIWRNEU DIN OR BID HWN I'R BID A DDAW. Dan gyffelybiaeth BREUDDWYD.TAITH Y PERERIN: NEU SIWRNEU DYN OR BYD HWN I'R BYD A DDAW. Dan gyffelybiaeth BREUDDWYD.
pp. 1–206863 passagespart 18 of 22
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
CRISTION. A ymroesoch chwi in ddioed i dderbŷn yr argyoeddiad hwnnw?
CRISTION. A ymroesoch chwi yn ddioed i dderbŷn yr argyoeddiad hwnnw?
Gobeithiol. Na do, nid oeddwn in ewŷllysgar in ddiatreg, i ddynabod y gwenwŷn a'r drŵg sŷdd mewn pechod; Nar ddamnedigaeth sŷdd in ei ddilin ef; And pan ddechrevodd fy nghalon grynu dan y gair; Mi a ewŷllysiwn gau fy llygaid in erbŷn goleuni'r gair.
Gobeithiol. Na ddo, nid oeddwn yn ewŷllysgar yn ddiatreg, i ddynabod y gwenwŷn a'r drŵg sŷdd mewn pechod; Nar ddamnedigaeth sŷdd yn ei ddilin ef; Ond pan ddechreuodd fy nghalon grynu dan y gair; Mi a ewŷllysiwn gau fy llygaid yn erbŷn goleuni'r gair.
CRISTION. And pa beth oedd yr achos pa ham yr ymddygasoch fell hŷn, tan weithredoedd cyntaf yr ysprŷd glân ynoch chwi?
CRISTION. Ond pa beth oedd yr achos pa ham yr ymddygasoch fel hŷn, tan weithredoedd cyntaf yr ysprŷd glân ynoch chwi?
Gobeithiol. Yr achosion oeddŷnt,▪ In gyntaf em nas gwŷddwn i may gwaith ysprŷd Duw oedd yr argyhoeddiad ymma; Ac ni wŷbum i erioed o'r blaen may trwŷ ddeffroad am bechod yr oedd Duw in dechreu gweithiô troiadigaeth pechadur; In ail yr oedd pechod in felus etto i'm cnawd; Ac yr oedd in anodd gennif ymadel ag ef; In drydŷdd Ni wŷddwn i pa fodd yr ymadawn a'm hên gymdeithion, gan mor ddymunol yr oedd eu cwmpeini, eu hymadroddion, a'u gweithredoedd gennif; In bedwaredd yr oedd yr oriau hynnŷ, in y rhai yr argyhoeddid fi am fy mhechod, mor gyffrous, ac mor ddychrynllŷd i mi, fell na allwn gymaint a meddwl amdanŷnt heb arswŷd in fy nghalon.