A30210:759
Taith y pererin, neu, siwrneu din o'r bid hwn i'r bid addaw dan gyffelybiaeth…Taith y pererin, neu, siwrneu dyn o'r byd hwn i'r byd addaw dan gyffelybiaeth…
Taith y pererin, neu, siwrneu din o'r bid hwn i'r bid addaw dan gyffelybiaeth breuddwyd in yr hwn a dangosir, in gyntaf, y mod o'i gychwŷnfa ef, in ail ei siwrneu ddyrŷs, in drydŷdd, ei ddyfodiad or diwedd i'r wlad ddymunol, teŷrnas nêf / o wneuthuriad John Bunyan, in saesnaeg ; y llyfr hwn a argraphwŷd in sasnaeg bymtheg o weithiau, ac unwaith or blaen in gymraeg o gyfieuthad cymmŷfg ddwŷlo.Taith y pererin, neu, siwrneu dyn o'r byd hwn i'r byd addaw dan gyffelybiaeth breuddwyd yn yr hwn a dangosir, yn gyntaf, y modd o'i gychwŷnfa ef, yn ail ei siwrneu ddyrŷs, yn drydŷdd, ei ddyfodiad or diwedd i'r wlad ddymunol, teŷrnas nêf / o wneuthuriad John Bunyan, yn saesnaeg ; y llyfr hwn a argraphwŷd yn sasnaeg bymtheg o weithiau, ac unwaith or blaen yn gymraeg o gyfieuthad cymmŷfg ddwŷlo.
Argraphwŷd in y Mwŷthig : Gan Thomas Jones, MDCLXXXXIX 1699Argraphwŷd yn y Mwŷthig : Gan Thomas Jones, MDCLXXXXIX 1699
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
CRISTION. Pa fôdd a gwŷddosti hynnŷ?
Anwŷbodaeth. Am fôd fy nghalon in fy nghyssuro i, mewn gobaith a cafi'r Nefoedd.
Anwŷbodaeth. Am fôd fy nghalon yn fy nghyssuro i, mewn gobaith a cafi'r Nefoedd.
CRISTION. Fe eill hynnŷ fôd trwŷ dwŷll dy gallon di; Canŷs fe all calon Dŷn ei gysuro ef mewn gobaith o rŷw beth, na bo gantho ddim Sail i obeithio am dano (Jeremi 17.9.)
CRISTION. Fe eill hynnŷ fôd trwŷ dwŷll dy galon di; Canŷs fe all calon Dŷn ei gysuro ef mewn gobaith o rŷw beth, na bo gantho ddim Sail i obeithio am dano (Jeremi 17.9.)
Anwŷbodaeth. And i mae fy nghalon i am buchedd in gyfattebol iw gilŷdd, ac am hynnŷ i mae gan fy ngobaith i sylfaen ddâ.
Anwŷbodaeth. Ond i mae fy nghalon i am buchedd yn gyfattebol iw gilŷdd, ac am hynnŷ i mae gan fy ngobaith i sylfaen ddâ.