A30210:79
Taith y pererin, neu, siwrneu din o'r bid hwn i'r bid addaw dan gyffelybiaeth…Taith y pererin, neu, siwrneu dyn o'r byd hwn i'r byd addaw dan gyffelybiaeth…
Taith y pererin, neu, siwrneu din o'r bid hwn i'r bid addaw dan gyffelybiaeth breuddwyd in yr hwn a dangosir, in gyntaf, y mod o'i gychwŷnfa ef, in ail ei siwrneu ddyrŷs, in drydŷdd, ei ddyfodiad or diwedd i'r wlad ddymunol, teŷrnas nêf / o wneuthuriad John Bunyan, in saesnaeg ; y llyfr hwn a argraphwŷd in sasnaeg bymtheg o weithiau, ac unwaith or blaen in gymraeg o gyfieuthad cymmŷfg ddwŷlo.Taith y pererin, neu, siwrneu dyn o'r byd hwn i'r byd addaw dan gyffelybiaeth breuddwyd yn yr hwn a dangosir, yn gyntaf, y modd o'i gychwŷnfa ef, yn ail ei siwrneu ddyrŷs, yn drydŷdd, ei ddyfodiad or diwedd i'r wlad ddymunol, teŷrnas nêf / o wneuthuriad John Bunyan, yn saesnaeg ; y llyfr hwn a argraphwŷd yn sasnaeg bymtheg o weithiau, ac unwaith or blaen yn gymraeg o gyfieuthad cymmŷfg ddwŷlo.
Argraphwŷd in y Mwŷthig : Gan Thomas Jones, MDCLXXXXIX 1699Argraphwŷd yn y Mwŷthig : Gan Thomas Jones, MDCLXXXXIX 1699
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
CRISTION. Sir, y mae'r Baich hwn sŷdd ar fy nghefn, in fwŷ brawychus i mi na'r cwbl ôll a grybwŷllasoch chwi am danŷnt; le mi a dybygwn nas gwnawn i gyfrif in y Bŷd o ddim a ddigwŷddai i mi in y ford pa gallwn i gael and fy nilwŷtho o'm Baich.
CRISTION. Syr, y mae'r Baich hwn sŷdd ar fy nghefn, yn fwŷ brawychus i mi na'r cwbl ôll a grybwŷllasoch chwi am danŷnt; le mi a dybygwn nas gwnawn i gyfrif yn y Bŷd o ddim a ddigwŷddai i mi yn y ffordd pa gallwn i gael ond fy nilwŷtho o'm Baich.
Bydol-Ddoethŷn. Pa fôdd y gwŷbuosti ar y cyntaf dy fôd ti in llwŷthog?
Bydol-Ddoethŷn. Pa fôdd y gwŷbuosti ar y cyntaf dy fôd ti yn llwŷthog?
CRISTION. Wrth ddarllain y Llyfr ymma sŷdd in fy law.
CRISTION. Wrth ddarllain y Llyfr ymma sŷdd yn fy llaw.
Bydol-Ddoethŷn. Fellu yr oeddwn i in tybied. Ac fe a ddigwŷddodd i ti wallgofi, megis ac y diwŷddodd i hobl anneallus eraill; Y rhai trwŷ ymhel a phethau ymmhell uwchlaw eu dealltwriaeth a gollasant eu côf in ddisymmwth: Ac i mae 'r cynddeiriogrwŷdd hwn, nid in unig in eu gosod hwŷnt mewn grâdd is nâ Dynnion (megis im tŷb i yr wŷt ti gwedi'th osod gantho) y mae ef hefŷd in eu gyrru hwŷnt ymlaen i feiddio ar bethau creulon, mewn amcan i feddiannu nis gwŷddant pa beth.