A30210:806
Taith y pererin, neu, siwrneu din o'r bid hwn i'r bid addaw dan gyffelybiaeth…Taith y pererin, neu, siwrneu dyn o'r byd hwn i'r byd addaw dan gyffelybiaeth…
Taith y pererin, neu, siwrneu din o'r bid hwn i'r bid addaw dan gyffelybiaeth breuddwyd in yr hwn a dangosir, in gyntaf, y mod o'i gychwŷnfa ef, in ail ei siwrneu ddyrŷs, in drydŷdd, ei ddyfodiad or diwedd i'r wlad ddymunol, teŷrnas nêf / o wneuthuriad John Bunyan, in saesnaeg ; y llyfr hwn a argraphwŷd in sasnaeg bymtheg o weithiau, ac unwaith or blaen in gymraeg o gyfieuthad cymmŷfg ddwŷlo.Taith y pererin, neu, siwrneu dyn o'r byd hwn i'r byd addaw dan gyffelybiaeth breuddwyd yn yr hwn a dangosir, yn gyntaf, y modd o'i gychwŷnfa ef, yn ail ei siwrneu ddyrŷs, yn drydŷdd, ei ddyfodiad or diwedd i'r wlad ddymunol, teŷrnas nêf / o wneuthuriad John Bunyan, yn saesnaeg ; y llyfr hwn a argraphwŷd yn sasnaeg bymtheg o weithiau, ac unwaith or blaen yn gymraeg o gyfieuthad cymmŷfg ddwŷlo.
Argraphwŷd in y Mwŷthig : Gan Thomas Jones, MDCLXXXXIX 1699Argraphwŷd yn y Mwŷthig : Gan Thomas Jones, MDCLXXXXIX 1699
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Gobeithiol. Nage, attebwch y cwestiwn hwnnw eich hunan; Canŷs yr ydŷchi'n hŷn na myfi.
CRISTION. Yr wŷf in atteb gan hynnŷ, eu bôd nhwŷ weithieu (im tŷb i) dan argyoeddiadau, ac arswŷd; And o herwŷdd eu bôd wrth naturiaeth in anwŷbodus, nid ydŷnt in deal fôd mo'r argyoeddiadau hynnŷ er daioni iddŷnt; Ac am hynnŷ i maent in ddewr in ymdrech iw mygu a'u llethu hwŷnt; Ac maent in parhau in rhyfygus, i rodio in ffŷrdd eu calonnau Twŷllodrus, gan ddywedŷd heddwch wrth eu heneidiau eu hunain in y cyflwr hwnnw.
CRISTION. Yr wŷf yn atteb gan hynnŷ, eu bôd nhwŷ weithieu (im tŷb i) dan argyoeddiadau, ac arswŷd; Ond o herwŷdd eu bôd wrth naturiaeth yn anwŷbodus, nid ydŷnt yn deall fôd mo'r argyoeddiadau hynnŷ er daioni iddŷnt; Ac am hynnŷ i maent yn ddewr yn ymdrech iw mygu a'u llethu hwŷnt; Ac maent yn parhau yn rhyfygus, i rodio yn ffŷrdd eu calonnau Twŷllodrus, gan ddywedŷd heddwch wrth eu heneidiau eu hunain yn y cyflwr hwnnw.
Gobeithiol. Yr ydwŷf in credu fôd y peth megis yr ydŷch in dywedŷd; Self bôd ofn in gwasanaethu in fawr, i weithio (trwŷ help ysprŷd Duw) ddaioni mewn dynnion, ac iw cymhwŷso nhw i fined ar Bererindod pan ddechrevant eu Taith.
Gobeithiol. Yr ydwŷf yn credu fôd y peth megis yr ydŷch yn dywedŷd; Sef bôd ofn yn gwasanaethu yn fawr, i weithio (trwŷ help ysprŷd Duw) ddaioni mewn dynnion, ac iw cymhwŷso nhw i fyned ar Bererindod pan ddechreuant eu Taith.