TAITH Y PERERIN: NEU SIWRNEU DIN OR BID HWN I'R BID A DDAW. Dan gyffelybiaeth BREUDDWYD.TAITH Y PERERIN: NEU SIWRNEU DYN OR BYD HWN I'R BYD A DDAW. Dan gyffelybiaeth BREUDDWYD.
pp. 1–206863 passagespart 20 of 22
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Anwŷbodaeth. Pa brŷd a mae'n meddyliau amdanom ein hunain in gydtunol a gair Duw?
Anwŷbodaeth. Pa brŷd a mae'n meddyliau amdanom ein hunain yn gydtunol a gair Duw?
CRISTION. Pan fyddom in rhoddi yr un farn arnom ein hunain ag i mae'r Gair in ei roddi: And i wneuthur y peth in eglurach, i mae gair Duw in dywedŷd am ddynnion (in eu cyflwr natuaiol) fell hŷn; Nid oes neb cyfiawn nag oes un: Nid oes un in gwneuthur daioni (Rhufeiniaid 3.10, 12. Genesis 6.5. & 8.21.) Mae'r gair in dywedŷd hefŷd fôd hôll feddylfrŷd calon dŷn in unig in ddrygionus bôb amser; A thrachefn, fôd calon dŷn in ddrygionus o'i jevengctid; Yrawron pan fo gennŷm y fâth dŷb a hŷn amdanom ein hunain (gan fôd teimlad o hynnŷ in ein calonnau) yna mae'n meddyliau in ddâ, o herwŷdd eu bôd in gydtunol a gair Duw.
CRISTION. Pan fyddom yn rhoddi yr un farn arnom ein hunain ag i mae'r Gair yn ei roddi: Ond i wneuthur y peth yn eglurach, i mae gair Duw yn dywedŷd am ddynnion (yn eu cyflwr natuaiol) fel hŷn; Nid oes neb cyfiawn nag oes un: Nid oes un yn gwneuthur daioni (Rhufeiniaid 3.10, 12. Genesis 6.5. & 8.21.) Mae'r gair yn dywedŷd hefŷd fôd hôll feddylfrŷd calon dŷn yn unig yn ddrygionus bôb amser; A thrachefn, fôd calon dŷn yn ddrygionus o'i ieuengctid; Yrawron pan fo gennŷm y fâth dŷb a hŷn amdanom ein hunain (gan fôd teimlad o hynnŷ yn ein calonnau) yna mae'n meddyliau yn ddâ, o herwŷdd eu bôd yn gydtunol a gair Duw.
Anwŷbodaeth. Ni choeliaf i bŷth fôd fy nghalon i cynddrwg a hŷn.