A30210:820
Taith y pererin, neu, siwrneu din o'r bid hwn i'r bid addaw dan gyffelybiaeth…Taith y pererin, neu, siwrneu dyn o'r byd hwn i'r byd addaw dan gyffelybiaeth…
Taith y pererin, neu, siwrneu din o'r bid hwn i'r bid addaw dan gyffelybiaeth breuddwyd in yr hwn a dangosir, in gyntaf, y mod o'i gychwŷnfa ef, in ail ei siwrneu ddyrŷs, in drydŷdd, ei ddyfodiad or diwedd i'r wlad ddymunol, teŷrnas nêf / o wneuthuriad John Bunyan, in saesnaeg ; y llyfr hwn a argraphwŷd in sasnaeg bymtheg o weithiau, ac unwaith or blaen in gymraeg o gyfieuthad cymmŷfg ddwŷlo.Taith y pererin, neu, siwrneu dyn o'r byd hwn i'r byd addaw dan gyffelybiaeth breuddwyd yn yr hwn a dangosir, yn gyntaf, y modd o'i gychwŷnfa ef, yn ail ei siwrneu ddyrŷs, yn drydŷdd, ei ddyfodiad or diwedd i'r wlad ddymunol, teŷrnas nêf / o wneuthuriad John Bunyan, yn saesnaeg ; y llyfr hwn a argraphwŷd yn sasnaeg bymtheg o weithiau, ac unwaith or blaen yn gymraeg o gyfieuthad cymmŷfg ddwŷlo.
Argraphwŷd in y Mwŷthig : Gan Thomas Jones, MDCLXXXXIX 1699Argraphwŷd yn y Mwŷthig : Gan Thomas Jones, MDCLXXXXIX 1699
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
CRISTION. In gyntaf, maent in tybied mai'r Cythrael sŷ'n gweithio'r dychrŷniadau hŷn ynthŷnt, (▪ er in ddiammeu oddiwrth Dduw a maent) ac o herwŷdd eu bôd nhw'n tybied fellu, i maent in eu gwrthod, megis pethau a fae in rhag-ddarparu eu dinistr hwŷnt. In ail, Maent hwŷ o'r oplniwn ymma hefŷd, fôd y dychrŷniadau hŷn in tueddu i anrheithio eu ffŷdd hwŷ (er nad oes ganthŷnt ffŷdd in y Bŷd!) ac am hynnŷ, maent in caledu eu calonnau in eu herbŷn hwŷnt. In drydŷdd, Heblaw hŷn, i maent in meddwl na ddylent ofni un amser; Ac am hynnŷ gan ddirmygu, a thagu y fâth ddychrŷniadau, i maent in digwŷdd i fôd in bobl ryfygus a thra hyderus, er nad oes ganthŷnt refwm in y Bŷd am yr hither hwnnw. Ac in ddiweddaf, I maent in gweled fôd y dychrŷniadau hŷn in rhag▪ddarparu dwŷn oddiarnŷnt eu gwael sancteiddrwŷdd eu hunain; Ac am hynnŷ maent in eu gwrthwŷnebu hwŷnt a'u hôll egni.
CRISTION. Yn gyntaf, maent yn tybied mai'r Cythrael sŷ'n gweithio'r dychrŷniadau hŷn ynthŷnt, (▪ er yn ddiammeu oddiwrth Dduw a maent) ac o herwŷdd eu bôd nhw'n tybied fellu, i maent yn eu gwrthod, megis pethau a fae yn rhag-ddarparu eu dinistr hwŷnt. Yn ail, Maent hwŷ o'r oplniwn ymma hefŷd, fôd y dychrŷniadau hŷn yn tueddu i anrheithio eu ffŷdd hwŷ (er nad oes ganthŷnt ffŷdd yn y Bŷd!) ac am hynnŷ, maent yn caledu eu calonnau yn eu herbŷn hwŷnt. Yn drydŷdd, Heblaw hŷn, i maent yn meddwl na ddylent ofni un amser; Ac am hynnŷ gan ddirmygu, a thagu y fâth ddychrŷniadau, i maent yn digwŷdd i fôd yn bobl ryfygus a thra hyderus, er nad oes ganthŷnt refwm yn y Bŷd am yr hyder hwnnw. Ac yn ddiweddaf, I maent yn gweled fôd y dychrŷniadau hŷn yn rhag▪ddarparu dwŷn oddiarnŷnt eu gwael sancteiddrwŷdd eu hunain; Ac am hynnŷ maent yn eu gwrthwŷnebu hwŷnt a'u hôll egni.
Gobeithiol. Yr wŷf in gwŷbod peth o hŷn trwŷ brofiad; Canŷs cŷn i mi fy nynabod fy hun, dymma fell yr oedd hi gyda mi.
Gobeithiol. Yr wŷf yn gwŷbod peth o hŷn trwŷ brofiad; Canŷs cŷn i mi fy nynabod fy hun, dymma fel yr oedd hi gyda mi.