A30210:837
Taith y pererin, neu, siwrneu din o'r bid hwn i'r bid addaw dan gyffelybiaeth…Taith y pererin, neu, siwrneu dyn o'r byd hwn i'r byd addaw dan gyffelybiaeth…
Taith y pererin, neu, siwrneu din o'r bid hwn i'r bid addaw dan gyffelybiaeth breuddwyd in yr hwn a dangosir, in gyntaf, y mod o'i gychwŷnfa ef, in ail ei siwrneu ddyrŷs, in drydŷdd, ei ddyfodiad or diwedd i'r wlad ddymunol, teŷrnas nêf / o wneuthuriad John Bunyan, in saesnaeg ; y llyfr hwn a argraphwŷd in sasnaeg bymtheg o weithiau, ac unwaith or blaen in gymraeg o gyfieuthad cymmŷfg ddwŷlo.Taith y pererin, neu, siwrneu dyn o'r byd hwn i'r byd addaw dan gyffelybiaeth breuddwyd yn yr hwn a dangosir, yn gyntaf, y modd o'i gychwŷnfa ef, yn ail ei siwrneu ddyrŷs, yn drydŷdd, ei ddyfodiad or diwedd i'r wlad ddymunol, teŷrnas nêf / o wneuthuriad John Bunyan, yn saesnaeg ; y llyfr hwn a argraphwŷd yn sasnaeg bymtheg o weithiau, ac unwaith or blaen yn gymraeg o gyfieuthad cymmŷfg ddwŷlo.
Argraphwŷd in y Mwŷthig : Gan Thomas Jones, MDCLXXXXIX 1699Argraphwŷd yn y Mwŷthig : Gan Thomas Jones, MDCLXXXXIX 1699
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
CRISTION. Yr ydŷchi in amcanu'n agos at y marc; Canŷs sylfaen y cwbl ŷw diffŷg cyfnewidiad ⟨p. 194⟩in eu dealltwriaeth a'u hewŷllŷs; Ac am-hynnŷ, nid ydŷnt and megis y lleidr sŷ'n sefŷll oflaen y Barnwr, yr hwn sŷ'n crynu, ac in arswŷdo in fawr, ac in ymddangos fell pedfae ef in edifeiriol o'i gallon am ei ddrygioni: And nid ŷw'r cwbl and rhag ofn y cebŷst; Ac nid o herwŷdd ei fod in casnau ei ddrŵg weithredoedd, megis y mae'n eglur, oblegid os ceiff y gŵr hwn ei rid-did, efe a fŷdd in lleidr, ac in Rôg drachefn; And pa bae cyfnewidiad grasol in ei feddwl a'i ewŷllŷs ef, fe a fyddai in amgenach gŵr.
CRISTION. Yr ydŷchi yn amcanu'n agos at y marc; Canŷs sylfaen y cwbl ŷw diffŷg cyfnewidiad ⟨p. 194⟩yn eu dealltwriaeth a'u hewŷllŷs; Ac am-hynnŷ, nid ydŷnt ond megis y lleidr sŷ'n sefŷll oflaen y Barnwr, yr hwn sŷ'n crynu, ac yn arswŷdo yn fawr, ac yn ymddangos fel pedfae ef yn edifeiriol o'i galon am ei ddrygioni: Ond nid ŷw'r cwbl ond rhag ofn y cebŷst; Ac nid o herwŷdd ei fod yn casnau ei ddrŵg weithredoedd, megis y mae'n eglur, oblegid os ceiff y gŵr hwn ei rydd-did, efe a fŷdd yn lleidr, ac yn Rôg drachefn; Ond pa bae cyfnewidiad grasol yn ei feddwl a'i ewŷllŷs ef, fe a fyddai yn amgenach gŵr.
Gobeithsol. Yrawron myfi a ddangosais i chwi yr achosion o'u hymadawiad a chrefŷdd; Dangoswch chwithau i minneu y mod o'u hymadawiad hwŷnt.
Gobeithsol. Yrawron myfi a ddangosais i chwi yr achosion o'u hymadawiad a chrefŷdd; Dangoswch chwithau i minneu y modd o'u hymadawiad hwŷnt.
CRISTION. Hynnŷ a wnaf in ewŷllysgar.