A30210:850
Taith y pererin, neu, siwrneu din o'r bid hwn i'r bid addaw dan gyffelybiaeth…Taith y pererin, neu, siwrneu dyn o'r byd hwn i'r byd addaw dan gyffelybiaeth…
Taith y pererin, neu, siwrneu din o'r bid hwn i'r bid addaw dan gyffelybiaeth breuddwyd in yr hwn a dangosir, in gyntaf, y mod o'i gychwŷnfa ef, in ail ei siwrneu ddyrŷs, in drydŷdd, ei ddyfodiad or diwedd i'r wlad ddymunol, teŷrnas nêf / o wneuthuriad John Bunyan, in saesnaeg ; y llyfr hwn a argraphwŷd in sasnaeg bymtheg o weithiau, ac unwaith or blaen in gymraeg o gyfieuthad cymmŷfg ddwŷlo.Taith y pererin, neu, siwrneu dyn o'r byd hwn i'r byd addaw dan gyffelybiaeth breuddwyd yn yr hwn a dangosir, yn gyntaf, y modd o'i gychwŷnfa ef, yn ail ei siwrneu ddyrŷs, yn drydŷdd, ei ddyfodiad or diwedd i'r wlad ddymunol, teŷrnas nêf / o wneuthuriad John Bunyan, yn saesnaeg ; y llyfr hwn a argraphwŷd yn sasnaeg bymtheg o weithiau, ac unwaith or blaen yn gymraeg o gyfieuthad cymmŷfg ddwŷlo.
Argraphwŷd in y Mwŷthig : Gan Thomas Jones, MDCLXXXXIX 1699Argraphwŷd yn y Mwŷthig : Gan Thomas Jones, MDCLXXXXIX 1699
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Yr oeddent ymma in wastadol in clywed yr adar in canu (Caniadau 2.10, 11, 12.) Ac in gweled y Blodau o ddŷdd i ddŷdd in ymddangos ar y ddaiar; Ac yr oeddŷnt in clywed llais y Durtur in y Tir ymma; In y wlâd hon hefŷd yr oedd yr haul in tywŷnnu Nôs a Dŷdd; Ac erbŷn hŷn yr oeddent ymhell oddiwrth Ddyffrŷn Cysgod Angeu; Ac hefŷd allan o gyrraedd y Cawr Anobaith; Ac ni allent ychwaith gymmaint a gweled Castle Ambeus o'r man hwn: Yr oeddent hwŷ ymma wedi dyfod mewn golwg i'r Ddinas, yr oeddŷnt in mined iddi; Hwŷ a gyfarfuant ymma hefŷd a rhai o drigolion y wlâd; Canŷs yr oedd y rhai disclair in rhodio in gyffredinol in y wlâd ⟨p. 196⟩hon, am ei bod hi ar duedd y Nefoedd; In y wlâd hon hefŷd yr adnewŷddwŷd cyfamod rhwng y Priod-fab ar Briod-ferch; Je a Llawenŷdd y Priod-fab am y Briod-ferch, a llawenychodd eu Duw o'u plegid hwŷnt (Esaŷ 62.5.)
Yr oeddent ymma yn wastadol yn clywed yr adar yn canu (Caniadau 2.10, 11, 12.) Ac yn gweled y Blodau o ddŷdd i ddŷdd yn ymddangos ar y ddaiar; Ac yr oeddŷnt yn clywed llais y Durtur yn y Tir ymma; Yn y wlâd hon hefŷd yr oedd yr haul yn tywŷnnu Nôs a Dŷdd; Ac erbŷn hŷn yr oeddent ymhell oddiwrth Ddyffrŷn Cysgod Angeu; Ac hefŷd allan o gyrraedd y Cawr Anobaith; Ac ni allent ychwaith gymmaint a gweled Castell Ambeus o'r mann hwn: Yr oeddent hwŷ ymma wedi dyfod mewn golwg i'r Ddinas, yr oeddŷnt yn myned iddi; Hwŷ a gyfarfuant ymma hefŷd a rhai o drigolion y wlâd; Canŷs yr oedd y rhai disclair yn rhodio yn gyffredinol yn y wlâd ⟨p. 196⟩hon, am ei bod hi ar duedd y Nefoedd; Yn y wlâd hon hefŷd yr adnewŷddwŷd cyfamod rhwng y Priod-fab ar Briod-ferch; Ie a Llawenŷdd y Priod-fab am y Briod-ferch, a llawenychodd eu Duw o'u plegid hwŷnt (Esaŷ 62.5.)
Nid oedd arnŷnt eisiau na Gwîn, nac ŷd; Canŷs hwŷ a gawsant ymma ddigonolrhwŷdd o'r cwbl oll a fuasent in ymofŷn amdanŷnt in eu holl Bererindod; Hwŷ a glywsant ymma uchel leferŷdd in dyfod allan o'r Ddinas in cyhoeddi (Esaŷ 62.11, 12.) Dywedwch wrth Ferch Seion, weal dy jachawdwr in dyfod, weal ei gyflog gydag ef: A holl drigolion y wlâd a'u galwasant in Bobl sanctaidd, gwaredigion yr Arglwŷdd.