A30210:849
Taith y pererin, neu, siwrneu din o'r bid hwn i'r bid addaw dan gyffelybiaeth…Taith y pererin, neu, siwrneu dyn o'r byd hwn i'r byd addaw dan gyffelybiaeth…
Taith y pererin, neu, siwrneu din o'r bid hwn i'r bid addaw dan gyffelybiaeth breuddwyd in yr hwn a dangosir, in gyntaf, y mod o'i gychwŷnfa ef, in ail ei siwrneu ddyrŷs, in drydŷdd, ei ddyfodiad or diwedd i'r wlad ddymunol, teŷrnas nêf / o wneuthuriad John Bunyan, in saesnaeg ; y llyfr hwn a argraphwŷd in sasnaeg bymtheg o weithiau, ac unwaith or blaen in gymraeg o gyfieuthad cymmŷfg ddwŷlo.Taith y pererin, neu, siwrneu dyn o'r byd hwn i'r byd addaw dan gyffelybiaeth breuddwyd yn yr hwn a dangosir, yn gyntaf, y modd o'i gychwŷnfa ef, yn ail ei siwrneu ddyrŷs, yn drydŷdd, ei ddyfodiad or diwedd i'r wlad ddymunol, teŷrnas nêf / o wneuthuriad John Bunyan, yn saesnaeg ; y llyfr hwn a argraphwŷd yn sasnaeg bymtheg o weithiau, ac unwaith or blaen yn gymraeg o gyfieuthad cymmŷfg ddwŷlo.
Argraphwŷd in y Mwŷthig : Gan Thomas Jones, MDCLXXXXIX 1699Argraphwŷd yn y Mwŷthig : Gan Thomas Jones, MDCLXXXXIX 1699
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Yrawron mi welais in fy mreuddwŷd, fod y Pererinod erbŷn hŷn wedi mined tros y Tîr a felltithwŷd, ac in dechreu mined i wlâd Beulah (Esaŷ 62.4.) yr hon sŷdd wlâd jachus a hyfrŷd; Ac yr oedd y ford in mined in uniawn trwŷddi; Ac ymma hwŷ a gymerasant eu hesmwŷthdra tros rŷw ennŷd o amser.
Yrawron mi welais yn fy mreuddwŷd, fod y Pererinod erbŷn hŷn wedi myned tros y Tîr a felltithwŷd, ac yn dechreu myned i wlâd Beulah (Esaŷ 62.4.) yr hon sŷdd wlâd iachus a hyfrŷd; Ac yr oedd y ffordd yn myned yn uniawn trwŷddi; Ac ymma hwŷ a gymerasant eu hesmwŷthdra tros rŷw ennŷd o amser.
Yr oeddent ymma in wastadol in clywed yr adar in canu (Caniadau 2.10, 11, 12.) Ac in gweled y Blodau o ddŷdd i ddŷdd in ymddangos ar y ddaiar; Ac yr oeddŷnt in clywed llais y Durtur in y Tir ymma; In y wlâd hon hefŷd yr oedd yr haul in tywŷnnu Nôs a Dŷdd; Ac erbŷn hŷn yr oeddent ymhell oddiwrth Ddyffrŷn Cysgod Angeu; Ac hefŷd allan o gyrraedd y Cawr Anobaith; Ac ni allent ychwaith gymmaint a gweled Castle Ambeus o'r man hwn: Yr oeddent hwŷ ymma wedi dyfod mewn golwg i'r Ddinas, yr oeddŷnt in mined iddi; Hwŷ a gyfarfuant ymma hefŷd a rhai o drigolion y wlâd; Canŷs yr oedd y rhai disclair in rhodio in gyffredinol in y wlâd ⟨p. 196⟩hon, am ei bod hi ar duedd y Nefoedd; In y wlâd hon hefŷd yr adnewŷddwŷd cyfamod rhwng y Priod-fab ar Briod-ferch; Je a Llawenŷdd y Priod-fab am y Briod-ferch, a llawenychodd eu Duw o'u plegid hwŷnt (Esaŷ 62.5.)
Yr oeddent ymma yn wastadol yn clywed yr adar yn canu (Caniadau 2.10, 11, 12.) Ac yn gweled y Blodau o ddŷdd i ddŷdd yn ymddangos ar y ddaiar; Ac yr oeddŷnt yn clywed llais y Durtur yn y Tir ymma; Yn y wlâd hon hefŷd yr oedd yr haul yn tywŷnnu Nôs a Dŷdd; Ac erbŷn hŷn yr oeddent ymhell oddiwrth Ddyffrŷn Cysgod Angeu; Ac hefŷd allan o gyrraedd y Cawr Anobaith; Ac ni allent ychwaith gymmaint a gweled Castell Ambeus o'r mann hwn: Yr oeddent hwŷ ymma wedi dyfod mewn golwg i'r Ddinas, yr oeddŷnt yn myned iddi; Hwŷ a gyfarfuant ymma hefŷd a rhai o drigolion y wlâd; Canŷs yr oedd y rhai disclair yn rhodio yn gyffredinol yn y wlâd