A41353:175
Madruddyn y difinyddiaeth diweddaraf
Madruddyn y difinyddiaeth diweddaraf: neu Llyfr saefoneg a elwir, = The marrow of modern divinity Oblegid y cyfammod oweithredoedd, a'r cyfammond o râs, a'u hymarfer hwy ill dau, a'r diweddion, dan yr hên Destament, a'r Testament Newydd. Ym mha un, y dangofir in eglur, pa cyn bellhed y mae din in fefyll ar y gefraith o rhan ei cyfiawnhaad, ac ar hynny in haeddu ei alw in ddeddfwr. A pha cyn bellhed y mae aràll in bychanu'r gy fraith o rhan sacnteiddiad, ac ar hynny in haeddu ei alw in ddeddf-wrthwynebwr. A'r llwybr canolig rhwng y ddau, yr hon â arwain y fywyd tragwyddol trwy Jesus Christ. Mewn cyd-ymddiddaniad rhwng. Evangelista. Gwenidog yr efengyl. Nomista. Deddfwr, neu wr in dal o ochor y cyfraith. Antinomista. Deddf-wrthwynebwr, neu wr in llwyr bychanu'r gyfraith. Neophitus. Christian jefange. O waith E.F. in y saefneg. O cyfiethiad J.E. i'r Gymraeg.Madruddyn y difinyddiaeth diweddaraf: neu Llyfr saefoneg a elwir, = The marrow of modern divinity Oblegid y cyfammod oweithredoedd, a'r cyfammond o râs, a'u hymarfer hwy ill dau, a'r diweddion, dan yr hên Destament, a'r Testament Newydd. Ym mha un, y dangofir yn eglur, pa cyn bellhed y mae dyn yn fefyll ar y gefraith o rhan ei cyfiawnhaad, ac ar hynny yn haeddu ei alw yn ddeddfwr. A pha cyn bellhed y mae aràll yn bychanu'r gy fraith o rhan sacnteiddiad, ac ar hynny yn haeddu ei alw yn ddeddf-wrthwynebwr. A'r llwybr canolig rhwng y ddau, yr hon â arwain y fywyd tragwyddol trwy Jesu Christ. Mewn cyd-ymddiddaniad rhwng. Evangelista. Gwenidog yr efengyl. Nomista. Deddfwr, neu wr yn dal o ochor y cyfraith. Antinomista. Deddf-wrthwynebwr, neu wr yn llwyr bychanu'r gyfraith. Neophitus. Christion iefange. O waith E.F. yn y saefneg. O cyfiethiad J.E. i'r Gymraeg.
Printiedig in Llundain : gan T. Mabb a A. Coles, dross William Ballard, ag i cael ar werth in i siop ef dan lûn y Bibl' in heil'r ûd in Ninas Bristol, 1651Printiedig yn Llundain : gan T. Mabb a A. Coles, dros William Ballard, ag i cael ar werth yn i siop ef dan lûn y Bibl' yn heil'r ûd yn Ninas Bristol, 1651
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Evan. In siccr y mae in wir roi o'r Arglwydd ir Tadau Gyfyawnder Bywyd ac Jechidwriaeth tragwyddol in Ghrist a thrwy Grist y Cyfrwngwr, ac in teu heb ddyfod etto in y cnawd, eithr wedi ei ado. And y mae ef in rhoi i ninny dan y Testament newydd, neu 'r Efengyl, ⟨p. 72⟩hyn igid in Ghrist, a thrwy Grist yr hwn a sy wedi dyfod eusys, ac wedi pwrcassu'r cwbl in weithredol trosom ni. Ac yr oedd y Cyfammod o ras wedi ei selio cyn dyfod Christ, ai waed ef mewn cyfrodau, ac arwyddion: ac a seliwd, ac a cadarnhawyd ar ei farwolaeth in ei cnawd trwy wir weithredol ollyngiad o'i waed ef tros ein pechodau ni. Ac yr oedd yr hên cyfammod o rhan ei ffurf oddiallan, a threfn ei seliad in amserol, ac in newidiol ac am hynny y cyscodau a ddarfuont, a'u sylwedd in unig a erys in ddiogel, eithr y mae, r seliau newydd in anghyfnewidiol am eu bod hwy in coffadwriol in dangos marwolaeth yr Arglwydd, hid oni ddelo ef drachefn. Ac heb law hyn yr oedd eu Cyfammod hwy in bennaf ac in cyntaf in adda bendithion daiarol,1 a thanint hwy, ac yndint hwy, yr arwyddocawyd, ac y promisiwyd holl fendithion ysprydol ac jechydwriaeth, eithr y mae ein cyfammod, ni tan yr efengyl in ado Christ a'i fendithion oll in bennaf, ac o flen dim, ac in ol hynny fendithion daiarol. Dymma 'r gwahaniaeth a'r cyffelib amrywiaeth amgylchaidd o rhan wenidogaeth oedd rhwwng eu llwybr hwy o ⟨p. 73⟩jechydwriaeth, a'u cyfammod o ras, a'n cyfammod ni a'n llwybr nio fywyd: a hyn a barei i'r Awdwr or llythr at yr Haebreayd,2 i alw eu cyfammod hwy in hên, a'n cyfammod ni in newydd: eithr o rhan sylwedd yr oeddent in un, ac or un rhyw, can is rheol didwyll yw hynym mhob cyfammodau: os yr un yw 'r defnydd, a'r ffrwyth, a'r ammodau, yno yr un y fydd y cyfammod: eithr Christ Jesus yw 'r matter gosodedig o'r ddau, ac Jechydwriaeth yw ffrwyth y ddau a ffydd yw 'r ammod ym mhob un o'r ddau, am hynny meddaf, er eu galw hwy in ddau, etto nid ydint onid un in unig; a hyn a siccrheir trwy tystiolaeth dau dyst fyddlon. Yr Apostol Petr yw 'r un,3 yr hwn a ddywaid fell hyn: Trwy râs yr Arglwydd Jesus Grist yr ydym ni in credu ein bod in gadwedig, yr un mod an hwythau: a phwy oedd rheini? nid amgen nar Tadau 'r hên Destament, fall y mae in amlwg in y wers nessaf o'r blaen. Y llall ywr' Apostol Paul, yr hwn a ddywaid fell hyn.