A41636:0
Catechism byrr sy'n cynnwys sylfeini crefydd christnogawl
S.l. : Printiedig in y flwuddyn, 1657S.l. : Printiedig yn y flwuddyn, 1657
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
CATECISM BYRR Sy'n Cynnwys sylfeini CREFYDD CRISTNOGAWL.
Printiedig in y flwuddyn 1657.
Printiedig yn y flwuddyn 1657.
Fynghymydogion anwylaf;
Gan ryngu bodd ir Arglwydd oi ragluniaeth fyngosod i in eich plith chwi, mi allaf mewn peth mesur o burdeb ddwedyd fod fynghalon am gweiddi bob amser in deisyfied eich bod chwi oll in gadwedig. mynych y daw in fy meddwl pa gyfriw fauch o dramawr ofalon a gymerais i arnaf, a pha gyfrif manwl sydd raid i mi roi or mod y disgais i chwi. A phan ddarllenwyf in yr 20 or Act 28. adnod, y cyngor difrifol doeth-gwbwl a rods S. Paul ir rhai oeddynt in gofalu am eneidiau in y geiriau hyn: edrychwch gan hynnu arnoch eich hunain, ac ar yr holl braid ar yr hwn y gosododd yr ysbryd glan chwi in olygwyr i fugeilio Eglwys Dduw, &c. Ac or blaen in yr 20 adnod, y mae in adrodd wrth yr Ephesiaid. y mod nad attaliasai ef ddim or pethan buddiol heb eu mynegi uddynt ai dyscu ar gyhoedd ac o dy i dy, gan destiolaethu ir Iddewon ac ir Groegiaid hefyd, yr edifeirwch sydd tu ag at Dduw, ar Fydd sydd tu ag at ein Harglwydd Jesus Grist pan ddarllenwyf yr Scrythyrau yma, (meddaf) ni allaf fodloni mo hono fy hunan, heb wneuthur peth ychwaneg eich adeiladu nach addyscu in unig in yr Eglwys.