A41636:7
Catechism byrr sy'n cynnwys sylfeini crefydd christnogawl
S.l. : Printiedig in y flwuddyn, 1657S.l. : Printiedig yn y flwuddyn, 1657
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Gan ystyried, am hynny wrthyf fy hunan, mae anwybodaeth yw r achos a bair i laweroedd, fined bendramwnwgl i golledigaeth dragywydd, ac may eisiau gwybodaeth a wna i liaws o ddynion fined in golledig, mi dybiais y byddai fuddiol a lleshawl eich eneidiau chwi gymeryd o hono i beth poen ich dwyn chwi in adnabyddus (in y mod byrraf y medrwn) ar ⟨p. 2⟩pyngciau mwyaf angenrheidiol or Grefydd Gristianogawl, ac ar prif fannau ar seiliau hynny or gwirionedd ar yr hwn y mae bywyd a marwolaeth in sefyll; gosod yr hyn ar y gorau, yw gorchwyl beunyddol y gwir Gristion da megis felly na byddo trueni tragywyddol yr un och eneidiau chwi, iw rhoi in fynghyfrif i.
Gan ystyried, am hynny wrthyf fy hunan, mae anwybodaeth yw r achos a bair i laweroedd, fyned bendramwnwgl i golledigaeth dragywydd, ac mai eisiau gwybodaeth a wna i liaws o ddynion fyned yn golledig, mi dybiais y byddai fuddiol a lleshawl eich eneidiau chwi gymeryd o hono i beth poen ich dwyn chwi yn adnabyddus (yn y modd byrraf y medrwn) ar ⟨p. 2⟩pyngciau mwyaf angenrheidiol or Grefydd Gristianogawl, ac ar prif fannau ar seiliau hynny or gwirionedd ar yr hwn y mae bywyd a marwolaeth yn sefyll; gosod yr hyn ar y gorau, yw gorchwyl beunyddol y gwir Gristion da megis felly na byddo trueni tragywyddol yr un och eneidiau chwi, iw rhoi yn fynghyfrif i.
Y llawrodd fer hon yr anrhegaf chwi ag i hi, a gynnillais ac a dynnais allan gan mwyaf o wyddorion a Chatechismau eraill gan gymeryd yr hyn a dybiais i fod in egluraf ac in fyrraf, a chwanegu atti yr hyn a welais i in gymhwysaf i chwi iw gredu ac iw arferu. yr attebion a blethwyd in y cyfriw fyrdra o bwrbas. Mal y dichon din or cof gwannaf ei dwyn ymaith in feddylgar. A hwy a fyddant in ddiescusonol yr rhai ni ymegniant i ddyscu yr hyn a gair a chin lleied o boen ac etto sydd mor fuddiol in gyfaddas uddynt. In y diwedd mi roddais ddwy weddi in ychwaneg, un ir borau ar llall i brydnawn; gan daer erfynied arnoch eu harfer hwynt beunydd in eich teulueodd Coeliwch fi, ni fyddwch chwi colledwyr or amser a draelioch yngwasaneth Duw. hen ddihareb wir yw gweddi ac ebran ni luddia r daith, neu nid rhwystr yw offeren, medd yr hen bobl. yr wyf in hysbys y cewch chwi fendith Duw in helaethach ar eich amcanion a gorchwylion bydol os byddwch bur a dianwadal in hyn o arferion.