A41636:8
Catechism byrr sy'n cynnwys sylfeini crefydd christnogawl
S.l. : Printiedig in y flwuddyn, 1657S.l. : Printiedig yn y flwuddyn, 1657
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Y llawrodd fer hon yr anrhegaf chwi ag i hi, a gynnillais ac a dynnais allan gan mwyaf o wyddorion a Chatechismau eraill gan gymeryd yr hyn a dybiais i fod in egluraf ac in fyrraf, a chwanegu atti yr hyn a welais i in gymhwysaf i chwi iw gredu ac iw arferu. yr attebion a blethwyd in y cyfriw fyrdra o bwrbas. Mal y dichon din or cof gwannaf ei dwyn ymaith in feddylgar. A hwy a fyddant in ddiescusonol yr rhai ni ymegniant i ddyscu yr hyn a gair a chin lleied o boen ac etto sydd mor fuddiol in gyfaddas uddynt. In y diwedd mi roddais ddwy weddi in ychwaneg, un ir borau ar llall i brydnawn; gan daer erfynied arnoch eu harfer hwynt beunydd in eich teulueodd Coeliwch fi, ni fyddwch chwi colledwyr or amser a draelioch yngwasaneth Duw. hen ddihareb wir yw gweddi ac ebran ni luddia r daith, neu nid rhwystr yw offeren, medd yr hen bobl. yr wyf in hysbys y cewch chwi fendith Duw in helaethach ar eich amcanion a gorchwylion bydol os byddwch bur a dianwadal in hyn o arferion.
Y llawrodd ferr hon yr anrhegaf chwi ag i hi, a gynnillais ac a dynnais allan gan mwyaf o wyddorion a Chatechismau eraill gan gymeryd yr hyn a dybiais i fod yn egluraf ac yn fyrraf, a chwanegu atti yr hyn a welais i yn gymhwysaf i chwi iw gredu ac iw arferu. yr attebion a blethwyd yn y cyfriw fyrdra o bwrbas. Mal y dichon dyn or cof gwannaf ei dwyn ymaith yn feddylgar. A hwy a fyddant yn ddiescusonol yr rhai ni ymegniant i ddyscu yr hyn a gair a chyn lleied o boen ac etto sydd mor fuddiol yn gyfaddas vddynt. Yn y diwedd mi roddais ddwy weddi yn ychwaneg, vn ir borau ar llall i brydnawn; gan daer erfynied arnoch eu harfer hwynt beunydd yn eich teulueodd Coeliwch fi, ni fyddwch chwi colledwyr or amser a draelioch yngwasaneth Duw. hen ddihareb wir yw gweddi ac ebran ni luddia r daith, neu nid rhwystr yw offeren, medd yr hen bobl. yr wyf yn hysbys y cewch chwi fendith Duw yn helaethach ar eich amcanion a gorchwylion bydol os byddwch bur a dianwadal yn hyn o arferion.
Ac yr awrhon (gymydogion anwyl) mi attolygaf i chwi ystyrried eich bod chwi a minnau in mined in ddidaring at orseddfainc barn Christ, yno y rhaid i mi roddi cyfrif pa fodd y dyscais i chwi a chwithau pa fodd y dysgasoch, an davoedd pa fodd yr ufuddhausom ac yr arferasom y gwirionedd a wnaethbwyd in adnabyddus i ni, mi attolygaf i chwi gan hynny na fwriwch in offer ac na thraeliwch mor darn sydd in ol och einioes mewn