A41643:101
Gair i bechaduriaid, a gair i saint Y cyntaf in tueddu i ddeffrôi cydwybodau…Gair i bechaduriaid, a gair i sainct Y cyntaf yn tueddu i ddeffrôi cydwybodau…
Gair i bechaduriaid, a gair i saint Y cyntaf in tueddu i ddeffrôi cydwybodau pechaduriaid diofal, i wîr deimlad ac ysturiaeth o'r cyflwr erchyll y maent ynddo, tra fyddont in byw in eu cyflwr naturiol heb yr ail-enedigaeth. Yr ail, in tueddu i gyfarwyddo ac i berswadio y duwiol, a'r rhai a ail-anwyd i amryw ddledswyddau enedkigol. Gan Tho, Gouge gweinidog yr efengyl. Ac a gyfieithwyd in gymraec gan W. Jones gweinidog yr egengyl.Gair i bechaduriaid, a gair i sainct Y cyntaf yn tueddu i ddeffrôi cydwybodau pechaduriaid diofal, i wîr deimlad ac ysturiaeth o'r cyflwr erchyll y maent ynddo, tra fyddont yn byw yn eu cyflwr naturiol heb yr ail-enedigaeth. Yr ail, yn tueddu i gyfarwyddo ac i berswadio y duwiol, a'r rhai a ail-anwyd i amryw ddledswyddau enedkigol. Gan Tho, Gouge gweinidog yr efengyl. Ac a gyfieithwyd yn gymraec gan W. Jones gweinidog yr egengyl.
Printiedig in Llundain : gan A. Maxwell i'r Awdwr, in y flwyddyn 1676Printiedig yn Llundain : gan A. Maxwell i'r Awdwr, yn y flwyddyn 1676
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Rhes. 3. Oddiwrth y tueddiad sydd i'r Ail-enedigaeth at Jechydwriacth. Mae 'r Ail-enedigaeth in râdd ac in rhan o Jechydwriaeth. Grâs ydyw dechrevad gogoniant, sancteiddrwydd ydyw dechrevad happusrwydd, perffeithrwydd yr hwn sydd in y Nefoedd ar ôl hyn, lle y bid Delw Dduw, a saif mewn gwybodaeth, sancteiddrwydd a chyfiawnder, wedi ei pherffeithio in ein heneidiau, lle y Cawn garu Duw in berffaith, ac ymddigrifo ynddo ef, a bôd bŷth in ei foliannu ef gyd â'r llu nefol. A pha fodd y jelly di ddisgwyl rhan a mwynháad o'r cyflwr bendigedig hwn heb dy ail-eni a'th adne-wyddu yma? Oni adnewyddir Delw Dduw arnat mewn sancteiddrwydd, ac itti wir-garu Duw, ac ymhyfrydu mewn cymmundeb ag ef yma! A eli di ddisgwyl y diweddiad cyn y dechrevad, bod in berffaith-sanctaidd ar ôl hyn, ac heb ddechreu bod in sanctaidd yma? Byw gyd â Duw mewn gogoniant ar ôl hyn, ac etto byw yma a gorwedd in dy frynti a'th aflendid? A eli di ddisgwyl ar ôl hyn fyw ynghariad tragwyddol Duw, ac etto bôd yma heb ddim carriad gennit iddo? A eli di ddisgwyl ar ôl hyn gyflawnder o ddigrifwch ym mhresennoldeb Duw, ac etto bod yma heb gennit ddim digrifwch ynddo? And wit in Cymmeryd dy holl ddigrifwch, nail a'i in cyflawni dy drachwant cybyddus i bentyrru Cyfoeth, neu in bodloni dy chwantau a'th anwydau pechadurus, trwy ymrôi i ddymuniadau dy gnawd?
Rhes. 3. Oddiwrth y tueddiad sydd i'r Ail-enedigaeth at Jechydwriacth. Mae 'r Ail-enedigaeth yn râdd ac yn rhan o Jechydwriaeth. Grâs ydyw dechreuad gogoniant, sancteiddrwydd ydyw dechreuad happusrwydd, perffeithrwydd yr hwn sydd yn y Nefoedd ar ôl hyn, lle y bydd Delw Dduw, a saif mewn gwybodaeth, sancteiddrwydd a chyfiawnder, wedi ei pherffeithio yn ein heneidiau, lle y Cawn garu Duw yn berffaith, ac ymddigrifo ynddo ef, a bôd bŷth yn ei foliannu ef gyd â'r llu nefol. A pha fodd y gelli di ddisgwyl rhan a mwynháad o'r cyflwr bendigedig hwn heb dy ail-eni a'th adne-wyddu yma? Oni adnewyddir Delw Dduw arnat mewn sancteiddrwydd, ac itti wir-garu Duw, ac ymhyfrydu mewn cymmundeb ag ef yma! A elli di ddisgwyl y diweddiad cyn y dechreuad, bod yn berffaith-sanctaidd ar ôl hyn, ac heb ddechreu bod yn sanctaidd yma? Byw gyd â Duw mewn gogoniant ar ôl hyn, ac etto byw yma a gorwedd yn dy frynti a'th aflendid? A elli di ddisgwyl ar ôl hyn fyw ynghariad tragwyddol Duw, ac etto bôd yma heb ddim carriad gennit iddo? A elli di ddisgwyl ar ôl hyn gyflawnder o ddigrifwch ym mhresennoldeb Duw, ac etto bod yma heb gennit ddim digrifwch ynddo? Ond wyt yn Cymmeryd dy holl ddigrifwch, naill a'i yn cyflawni dy drachwant cybyddus i bentyrru Cyfoeth, neu yn bodloni dy chwantau a'th anwydau pechadurus, trwy ymrôi i ddymuniadau dy gnawd?