PEN. III. In dangos y Rhesymmau pam y mae 'r Ail-enedigaeth in angenrheidiol i Jechydwriaeth.PEN. III. Yn dangos y Rhesymmau pam y mae 'r Ail-enedigaeth yn angenrheidiol i Jechydwriaeth.
pp. 18–2215 passages
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
PEN. III. In dangos y Rhesymmau pam y mae 'r Ail-enedigaeth in angenrheidiol i Jechydwriaeth.
PEN. III. Yn dangos y Rhesymmau pam y mae 'r Ail-enedigaeth yn angenrheidiol i Jechydwriaeth.
Gwedi imi lefaru am y Pwngc mewn mod o Esponiad; yr wyf in dyfod yr awron i lefaru am dano mewn mod o Gadarnhâd; I'r diben hwn mi a ddangosaf i chwi Resymmau y Pwngc, pam y mae 'r Ail-exedigaeth in angenrheidiol i Jechydwriaeth.
GWedi imi lefaru am y Pwngc mewn modd o Esponiad; yr wyf yn dyfod yr awron i lefaru am dano mewn modd o Gadarnhâd; I'r diben hwn mi a ddangosaf i chwi Resymmau y Pwngc, pam y mae 'r Ail-exedigaeth yn angenrheidiol i Jechydwriaeth.
Rhes. 1. Oddiwrth anghyfnewidioldeb arfaeth Duw. Duw yr hwn a'n dewisodd i fywyd, a'n dewisodd hefyd i sancteiddrwydd, megis y ford i hynny: Nyni a ddylem ddiolch in wastad i Dduw trosoch chwi, frodyr caredig gan yr Arglwydd, oblegid i Dduw o'r dechrevad eich ethol chwi i Jechydwriaeth, trwy sancteiddiad yr yspryd, 2 Thes. 2.13. Pwy bynnag a fynno fined i mewn i ogoniant, rhaid iddo gymeryd grâs in ei ford. Chwi a ofynnwch, pam na allafi fôd in gadwedig, oni byddafi ail-enedig? Pam? Oblegid i Dduw lwyr-fwriadu y gwrthwyneb. Hyn yw ewyllys Duw, eich sancteiddiad in gyntaf; wedi hynny eich Jechydwriaeth, 1 Thes. 4.3.
Rhes. 1. Oddiwrth anghyfnewidioldeb arfaeth Duw. Duw yr hwn a'n dewisodd i fywyd, a'n dewisodd hefyd i sancteiddrwydd, megis y ffordd i hynny: Nyni a ddylem ddiolch yn wastad i Dduw trosoch chwi, frodyr caredig gan yr Arglwydd, oblegid i Dduw o'r dechreuad eich ethol chwi i Jechydwriaeth, trwy sancteiddiad yr yspryd,