A41643:18
Gair i bechaduriaid, a gair i saint Y cyntaf in tueddu i ddeffrôi cydwybodau…Gair i bechaduriaid, a gair i sainct Y cyntaf yn tueddu i ddeffrôi cydwybodau…
Gair i bechaduriaid, a gair i saint Y cyntaf in tueddu i ddeffrôi cydwybodau pechaduriaid diofal, i wîr deimlad ac ysturiaeth o'r cyflwr erchyll y maent ynddo, tra fyddont in byw in eu cyflwr naturiol heb yr ail-enedigaeth. Yr ail, in tueddu i gyfarwyddo ac i berswadio y duwiol, a'r rhai a ail-anwyd i amryw ddledswyddau enedkigol. Gan Tho, Gouge gweinidog yr efengyl. Ac a gyfieithwyd in gymraec gan W. Jones gweinidog yr egengyl.Gair i bechaduriaid, a gair i sainct Y cyntaf yn tueddu i ddeffrôi cydwybodau pechaduriaid diofal, i wîr deimlad ac ysturiaeth o'r cyflwr erchyll y maent ynddo, tra fyddont yn byw yn eu cyflwr naturiol heb yr ail-enedigaeth. Yr ail, yn tueddu i gyfarwyddo ac i berswadio y duwiol, a'r rhai a ail-anwyd i amryw ddledswyddau enedkigol. Gan Tho, Gouge gweinidog yr efengyl. Ac a gyfieithwyd yn gymraec gan W. Jones gweinidog yr egengyl.
Printiedig in Llundain : gan A. Maxwell i'r Awdwr, in y flwyddyn 1676Printiedig yn Llundain : gan A. Maxwell i'r Awdwr, yn y flwyddyn 1676
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
PEN. I. Esponiad y gwersi a'r Athrawiaethau o honynt.
O Ddechrevad y drydydd Bennod hon hid y 22 wers, y gosodir ar lawr yr ymddiddan rhwng ein Jachawdur bendigedig a Nicodemus; in yr hyn y mae try pheth in nodedig.
O Ddechreuad y drydydd Bennod hon hyd y 22 wers, y gosodir ar lawr yr ymddiddan rhwng ein Jachawdur bendigedig a Nicodemus; yn yr hyn y mae tri pheth yn nodedig.
1. Fe adroddir pwy yw Nicodemus.
2. Achos yr ymddiddan, yr hyn oedd, dyfodiad Nicodemus at Ghrist, a nodir gwers 2.
3. Yr ymddiddan ei hun o'r 3 wers hid y 22.