A41643:26
Gair i bechaduriaid, a gair i saint Y cyntaf in tueddu i ddeffrôi cydwybodau…Gair i bechaduriaid, a gair i sainct Y cyntaf yn tueddu i ddeffrôi cydwybodau…
Gair i bechaduriaid, a gair i saint Y cyntaf in tueddu i ddeffrôi cydwybodau pechaduriaid diofal, i wîr deimlad ac ysturiaeth o'r cyflwr erchyll y maent ynddo, tra fyddont in byw in eu cyflwr naturiol heb yr ail-enedigaeth. Yr ail, in tueddu i gyfarwyddo ac i berswadio y duwiol, a'r rhai a ail-anwyd i amryw ddledswyddau enedkigol. Gan Tho, Gouge gweinidog yr efengyl. Ac a gyfieithwyd in gymraec gan W. Jones gweinidog yr egengyl.Gair i bechaduriaid, a gair i sainct Y cyntaf yn tueddu i ddeffrôi cydwybodau pechaduriaid diofal, i wîr deimlad ac ysturiaeth o'r cyflwr erchyll y maent ynddo, tra fyddont yn byw yn eu cyflwr naturiol heb yr ail-enedigaeth. Yr ail, yn tueddu i gyfarwyddo ac i berswadio y duwiol, a'r rhai a ail-anwyd i amryw ddledswyddau enedkigol. Gan Tho, Gouge gweinidog yr efengyl. Ac a gyfieithwyd yn gymraec gan W. Jones gweinidog yr egengyl.
Printiedig in Llundain : gan A. Maxwell i'r Awdwr, in y flwyddyn 1676Printiedig yn Llundain : gan A. Maxwell i'r Awdwr, yn y flwyddyn 1676
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
1. Wrth ei Enw, Nicodemus, yr hyn a osodir in eglur ar lawr fell o ran gwirionedd yr histôri, felly o ran parch i'r gŵr. Nodedig yw, fod in yr 'Sgrythyrau Sanctaidd fwyaf gofal am osod i lawr enwau gwŷr-da, y rhai in eu bywyd, ryw ford neu gilydd, a osodasant allan ogoniant Duw, ac a'u gwnaethant eu hunain in Siamplau ⟨p. 2⟩teilwng iw dilyn. Canys Duw a anrhydedda y rhai a'i anrhydeddant ef, ac a wnâ eu Coffadwriaeth hwynt in fendigedig.
1. Wrth ei Enw, Nicodemus, yr hyn a osodir yn eglur ar lawr fel o ran gwirionedd yr histôri, felly o ran parch i'r gŵr. Nodedig yw, fod yn yr 'Sgrythyrau Sanctaidd fwyaf gofal am osod i lawr enwau gwŷr-da, y rhai yn eu bywyd, ryw ffordd neu gilydd, a osodasant allan ogoniant Duw, ac a'u gwnaethant eu hunain yn Siamplau ⟨p. 2⟩teilwng iw dilyn. Canys Duw a anrhydedda y rhai a'i anrhydeddant ef, ac a wnâ eu Coffadwriaeth hwynt yn fendigedig.
2. Wrth ei Sect, fe ddywedir in eglur ei fôd ef in ddŷn o'r Pharisaeaid: Yr hon oedd in Sect neillduol ym mhlith yr Iddewon, o gyfrif uchel o ran ymddangosiad o Sancteiddrwydd a Phroffess enwedigol. And etto mewn gwirionedd gwîr Ragrithwyr oeddynt: Canys yr Oeddynt in gwneuthur y Cwbl er mwyn eu gweled gan ddynion. Yr hyn gan i Ghrist ei ddatguddio, a'i amlygu i'r bobl, hwy a brifiasant in Elynion ac in Erlidwŷr mwyaf iddo.
2. Wrth ei Sect, fe ddywedir yn eglur ei fôd ef yn ddŷn o'r Pharisaeaid: Yr hon oedd yn Sect neillduol ym mhlith yr Iddewon, o gyfrif vchel o ran ymddangosiad o Sancteiddrwydd a Phroffess enwedigol. Ond etto mewn gwirionedd gwîr Ragrithwyr oeddynt: Canys yr Oeddynt yn gwneuthur y Cwbl er mwyn eu gweled gan ddynion. Yr hyn gan i Ghrist ei ddatguddio, a'i amlygu i'r bobl, hwy a brifiasant yn Elynion ac yn Erlidwŷr mwyaf iddo.