A41643:39
Gair i bechaduriaid, a gair i saint Y cyntaf in tueddu i ddeffrôi cydwybodau…Gair i bechaduriaid, a gair i sainct Y cyntaf yn tueddu i ddeffrôi cydwybodau…
Gair i bechaduriaid, a gair i saint Y cyntaf in tueddu i ddeffrôi cydwybodau pechaduriaid diofal, i wîr deimlad ac ysturiaeth o'r cyflwr erchyll y maent ynddo, tra fyddont in byw in eu cyflwr naturiol heb yr ail-enedigaeth. Yr ail, in tueddu i gyfarwyddo ac i berswadio y duwiol, a'r rhai a ail-anwyd i amryw ddledswyddau enedkigol. Gan Tho, Gouge gweinidog yr efengyl. Ac a gyfieithwyd in gymraec gan W. Jones gweinidog yr egengyl.Gair i bechaduriaid, a gair i sainct Y cyntaf yn tueddu i ddeffrôi cydwybodau pechaduriaid diofal, i wîr deimlad ac ysturiaeth o'r cyflwr erchyll y maent ynddo, tra fyddont yn byw yn eu cyflwr naturiol heb yr ail-enedigaeth. Yr ail, yn tueddu i gyfarwyddo ac i berswadio y duwiol, a'r rhai a ail-anwyd i amryw ddledswyddau enedkigol. Gan Tho, Gouge gweinidog yr efengyl. Ac a gyfieithwyd yn gymraec gan W. Jones gweinidog yr egengyl.
Printiedig in Llundain : gan A. Maxwell i'r Awdwr, in y flwyddyn 1676Printiedig yn Llundain : gan A. Maxwell i'r Awdwr, yn y flwyddyn 1676
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
In wers 3. Atteb Christ i Nicodemus a ganlyn, yr hyn a barheîr hid gwers 22. In yr hyn mae Christ in gyntaf in dangos Angenrhaid yr Ail-enedigaeth, in y geiriau hyn, In wîr, in wîr, meddaf i ti, Oddieithr geni dŷn drachefn, ni ddichon efe welled teyrnas Dduw.
Yn wers 3. Atteb Christ i Nicodemus a ganlyn, yr hyn a barheîr hyd gwers 22. Yn yr hyn mae Christ yn gyntaf yn dangos Angenrhaid yr Ail-enedigaeth, yn y geiriau hyn, Yn wîr, yn wîr, meddaf i ti, Oddieithr geni dŷn drachefn, ni ddichon efe weled teyrnas Dduw.
Cyn i ni ddyfod at sylwedd ymddiddan Christ, nodwn y mod y mae efe in derbyn Nicodemus.
Cyn i ni ddyfod at sylwedd ymddiddan Christ, nodwn y modd y mae efe yn derbyn Nicodemus.
Chwi a glywsoch o'r gwersi o'r blaen fod Nicodemus in Pharisoead ac in Bennaeth, y ddau fâth o ddynion oedd fwyaf in gwrthwynebu Christ. A chwi a glywsoch am ei wendid ef, pa fodd trwy ofn a chywilydd, y daeth efe at Ghrist liw nôs, in anhawdd ganddo gael ei welled gydag ef. Etto nid yw Christ in ei wrthod ef, and in ei dderbyn ef in addfwyn, ac in ei ddysgu in y Cyfryw Byngciau, y rhai ni wyddai, er eu bod in Byngciau sylweddol, angenrheidiol i Jechydwriaeth. O'r hyn y gallwn nodi yr Athrawiaeth hon, Mae Christ in barod i dderbyn y rhai mewn gwirionedd ac uniondeb a ddêl atto, er bôd amryw wendid arnynt. Nid yw in gwrthod y rhai fydd wan in y ffydd o herwydd eu gwendid. Ni ddarllenwn in history 'r Efengyl, tra fu efe in byw ar y ddaiar, na wrthododd efe nêb a ddaeth atto mewn uniondeb calon; rhai in wîr a aethant ymaith o honynt eu hunain, and ni thrôdd efe nêb ymaith. Ac a all nêb feddwl, nad oes gan Ghrist, yr awron in y Nefoedd, yr •n ymysgaroedd o dosturi tu ac at y rhai a ddêl atto ef, ac yr oedd ganddo pan oedd ar y ddaiar? In ddiau