A41643:284
Gair i bechaduriaid, a gair i saint Y cyntaf in tueddu i ddeffrôi cydwybodau…Gair i bechaduriaid, a gair i sainct Y cyntaf yn tueddu i ddeffrôi cydwybodau…
Gair i bechaduriaid, a gair i saint Y cyntaf in tueddu i ddeffrôi cydwybodau pechaduriaid diofal, i wîr deimlad ac ysturiaeth o'r cyflwr erchyll y maent ynddo, tra fyddont in byw in eu cyflwr naturiol heb yr ail-enedigaeth. Yr ail, in tueddu i gyfarwyddo ac i berswadio y duwiol, a'r rhai a ail-anwyd i amryw ddledswyddau enedkigol. Gan Tho, Gouge gweinidog yr efengyl. Ac a gyfieithwyd in gymraec gan W. Jones gweinidog yr egengyl.Gair i bechaduriaid, a gair i sainct Y cyntaf yn tueddu i ddeffrôi cydwybodau pechaduriaid diofal, i wîr deimlad ac ysturiaeth o'r cyflwr erchyll y maent ynddo, tra fyddont yn byw yn eu cyflwr naturiol heb yr ail-enedigaeth. Yr ail, yn tueddu i gyfarwyddo ac i berswadio y duwiol, a'r rhai a ail-anwyd i amryw ddledswyddau enedkigol. Gan Tho, Gouge gweinidog yr efengyl. Ac a gyfieithwyd yn gymraec gan W. Jones gweinidog yr egengyl.
Printiedig in Llundain : gan A. Maxwell i'r Awdwr, in y flwyddyn 1676Printiedig yn Llundain : gan A. Maxwell i'r Awdwr, yn y flwyddyn 1676
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
3. Ystyria in ddifrifol y Bygythion ofnadwy sydd in erbyn pechod a phechaduriaid; y rhai ydynt bôb mâth o bláau a chystuddian• y•a, ac ar ôl hyn o farwolaeth a damnedigaeth dragwyddol: A chymmer hwynt attat, gan ymresymmu fall hyn, Os ydyw y troseddiad lleiaf o'r Ddeddf in haeddu melldith Dduw, je pôb mâth ar farnedigaethau a phláau yma, ac ar ôl hyn damnedigaeth dragwyddol; Ina pa sawl faint o felldithion a phlaau? pa faint o ddamnedigaeth a haeddais i? gan fod fy mhechodau i o amldra ancirif, ac o faintioli ⟨p. 66⟩echryslon. A chyd â hynny ystyria wirionedd a ffyddlondeb Duw i gyflawni ei fygythion in gystal a'i addewidion.
3. Ystyria yn ddifrifol y Bygythion ofnadwy sydd yn erbyn pechod a phechaduriaid; y rhai ydynt bôb mâth o bláau a chystuddian• y•a, ac ar ôl hyn o farwolaeth a damnedigaeth dragwyddol: A chymmer hwynt attat, gan ymresymmu fal hyn, Os ydyw y troseddiad lleiaf o'r Ddeddf yn haeddu melldith Dduw, ie pôb mâth ar farnedigaethau a phláau yma, ac ar ôl hyn damnedigaeth dragwyddol; Yna pa sawl faint o felldithion a phlaau? pa faint o ddamnedigaeth a haeddais i? gan fod fy mhechodau i o amldra ancirif, ac o faintioli ⟨p. 66⟩echryslon. A chyd â hynny ystyria wirionedd a ffyddlondeb Duw i gyflawni ei fygythion yn gystal a'i addewidion.
4. Cais gan Dduw y drugaredd fawr hon o gallon isel ostyngedig. Canys rhaid iddo ef daro ein calonnau cerrig, y creigiau caledion hyn, cyn iddynt rôi dim dwfr gwîr edifeirwch: ac fell y byddo dy weddi in fwy nerthol, sâf ar addewid grasol Duw, i gymmeryd ymaith y gallon garreg o'th gnawd di, ac i roddi itti gallon o gîg.