A41643:309
Gair i bechaduriaid, a gair i saint Y cyntaf in tueddu i ddeffrôi cydwybodau…Gair i bechaduriaid, a gair i sainct Y cyntaf yn tueddu i ddeffrôi cydwybodau…
Gair i bechaduriaid, a gair i saint Y cyntaf in tueddu i ddeffrôi cydwybodau pechaduriaid diofal, i wîr deimlad ac ysturiaeth o'r cyflwr erchyll y maent ynddo, tra fyddont in byw in eu cyflwr naturiol heb yr ail-enedigaeth. Yr ail, in tueddu i gyfarwyddo ac i berswadio y duwiol, a'r rhai a ail-anwyd i amryw ddledswyddau enedkigol. Gan Tho, Gouge gweinidog yr efengyl. Ac a gyfieithwyd in gymraec gan W. Jones gweinidog yr egengyl.Gair i bechaduriaid, a gair i sainct Y cyntaf yn tueddu i ddeffrôi cydwybodau pechaduriaid diofal, i wîr deimlad ac ysturiaeth o'r cyflwr erchyll y maent ynddo, tra fyddont yn byw yn eu cyflwr naturiol heb yr ail-enedigaeth. Yr ail, yn tueddu i gyfarwyddo ac i berswadio y duwiol, a'r rhai a ail-anwyd i amryw ddledswyddau enedkigol. Gan Tho, Gouge gweinidog yr efengyl. Ac a gyfieithwyd yn gymraec gan W. Jones gweinidog yr egengyl.
Printiedig in Llundain : gan A. Maxwell i'r Awdwr, in y flwyddyn 1676Printiedig yn Llundain : gan A. Maxwell i'r Awdwr, yn y flwyddyn 1676
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
II. Am y Mod y mae cyflawni y ddledswydd hon,
II. Am y Modd y mae cyflawni y ddledswydd hon,
1. Byddwch daer ar Dduw mewn gweddi, ar iddo barattôi eich calonnau i'r fâth orchwyl pwysfawr, trwy roddi ichwi anwydau a fo cyfattebol; ac ar iddo dderbyn eich person a'ch gwasanaeth, a thrwy ei yspryd sanctaidd eich cryfh•u a'ch cymmorth iw gyflawni.
2. Rhaid ichwi wneuthur eich Cyfammod in hollawl in ddinam ac heb darn-guddio in ddirgel. Mae gormod o Ghristianogion in hyn in mawr-dwyllo eu heneidiau eu hunain; Hwy a addawant ymwrthod a Diafol, a'r Bŷd a'r cnawd, ac i ymrôi i Dduw, a'i wasanaeth, and trwy rag-ddarbod hyn, rhoi cennad iddynt i lochi rhyw drachwant anwyl, neu fyw in dilyn rhyw elw pechadurus, gan ddywedyd gydâ Naaman, Maddeved yr Arglwydd i'th wâs in y peth hyn, trwy 'r hyn y maent in eglur-ddangos rhagrith eu calonnau.
2. Rhaid ichwi wneuthur eich Cyfammod yn hollawl yn ddinam ac heb ddarn-guddio yn ddirgel. Mae gormod o Ghristianogion yn hyn yn mawr-dwyllo eu heneidiau eu hunain; Hwy a addawant ymwrthod a Diafol, a'r Bŷd a'r cnawd, ac i ymrôi i Dduw, a'i wasanaeth, ond trwy rag-ddarbod hyn, rhoi cennad iddynt i lochi rhyw drachwant anwyl, neu fyw yn dilyn rhyw elw pechadurus, gan ddywedyd gydâ Naaman, Maddeued yr Arglwydd i'th wâs yn y peth hyn, trwy 'r hyn y maent yn eglur-ddangos rhagrith eu calonnau.