A41643:426
Gair i bechaduriaid, a gair i saint Y cyntaf in tueddu i ddeffrôi cydwybodau…Gair i bechaduriaid, a gair i sainct Y cyntaf yn tueddu i ddeffrôi cydwybodau…
Gair i bechaduriaid, a gair i saint Y cyntaf in tueddu i ddeffrôi cydwybodau pechaduriaid diofal, i wîr deimlad ac ysturiaeth o'r cyflwr erchyll y maent ynddo, tra fyddont in byw in eu cyflwr naturiol heb yr ail-enedigaeth. Yr ail, in tueddu i gyfarwyddo ac i berswadio y duwiol, a'r rhai a ail-anwyd i amryw ddledswyddau enedkigol. Gan Tho, Gouge gweinidog yr efengyl. Ac a gyfieithwyd in gymraec gan W. Jones gweinidog yr egengyl.Gair i bechaduriaid, a gair i sainct Y cyntaf yn tueddu i ddeffrôi cydwybodau pechaduriaid diofal, i wîr deimlad ac ysturiaeth o'r cyflwr erchyll y maent ynddo, tra fyddont yn byw yn eu cyflwr naturiol heb yr ail-enedigaeth. Yr ail, yn tueddu i gyfarwyddo ac i berswadio y duwiol, a'r rhai a ail-anwyd i amryw ddledswyddau enedkigol. Gan Tho, Gouge gweinidog yr efengyl. Ac a gyfieithwyd yn gymraec gan W. Jones gweinidog yr egengyl.
Printiedig in Llundain : gan A. Maxwell i'r Awdwr, in y flwyddyn 1676Printiedig yn Llundain : gan A. Maxwell i'r Awdwr, yn y flwyddyn 1676
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Etto pa faint o Broffesswŷr sydd in ein dyddiau ni, y rhai, er eu bôd in gwneuthur lliw o lawyer o gariad i Christ, etto trwy eu hymarweddiad sydd in dangos fod ganddynt gariad mwy a chryfach tuac at eu cyfoeth, na thu ac atto ef?
Etto pa faint o Broffesswŷr sydd yn ein dyddiau ni, y rhai, er eu bôd yn gwneuthur lliw o lawer o gariad i Christ, etto trwy eu hymarweddiad sydd yn dangos fod ganddynt gariad mwy a chryfach tuac at eu cyfoeth, na thu ac atto ef?
1. Canys pa fodd y mae eu meddyliau in fwy ar y Bŷd, a phethau 'r Bŷd, nag ar Ghrist? Cyn gynted ac y deffrothont o'u cŵsg, mae 'r Bŷd in ebrwydd in cymmeryd meddiant in eu calonnau, a'u meddyliau sydd ar ⟨p. 101⟩eu cyfoeth, pa fodd y gallont ei chwanegu, a hynny trwy boen a gofal diflin, pan fo ychydig a wnelont tros Ghrist in eu blino in y man.
1. Canys pa fodd y mae eu meddyliau yn fwy ar y Bŷd, a phethau 'r Bŷd, nag ar Ghrist? Cyn gynted ac y deffrothont o'u cŵsg, mae 'r Bŷd yn ebrwydd yn cymmeryd meddiant yn eu calonnau, a'u meddyliau sydd ar ⟨p. 101⟩eu cyfoeth, pa fodd y gallont ei chwanegu, a hynny trwy boen a gofal diflin, pan fo ychydig a wnelont tros Ghrist yn eu blino yn y man.
2. Pa fodd y mae eu hymddiddanion hwynt in rhedeg mwy ar eu cyfoeth, nag ar Ghrist? Je â pha rydid hyfryd y siaradant am eu cyfoeth, ac am y Moddion iw geisio a'i chwanegu? A braid y bid gair am Ghrist ar hŷd y did. Yr hyn sydd in dangos in eglur y cybydd-dod sydd in llechu in eu calonnau: Canys o helaethrwydd y gallon y mae 'r genau in llefaru.