A41643:481
Gair i bechaduriaid, a gair i saint Y cyntaf in tueddu i ddeffrôi cydwybodau…Gair i bechaduriaid, a gair i sainct Y cyntaf yn tueddu i ddeffrôi cydwybodau…
Gair i bechaduriaid, a gair i saint Y cyntaf in tueddu i ddeffrôi cydwybodau pechaduriaid diofal, i wîr deimlad ac ysturiaeth o'r cyflwr erchyll y maent ynddo, tra fyddont in byw in eu cyflwr naturiol heb yr ail-enedigaeth. Yr ail, in tueddu i gyfarwyddo ac i berswadio y duwiol, a'r rhai a ail-anwyd i amryw ddledswyddau enedkigol. Gan Tho, Gouge gweinidog yr efengyl. Ac a gyfieithwyd in gymraec gan W. Jones gweinidog yr egengyl.Gair i bechaduriaid, a gair i sainct Y cyntaf yn tueddu i ddeffrôi cydwybodau pechaduriaid diofal, i wîr deimlad ac ysturiaeth o'r cyflwr erchyll y maent ynddo, tra fyddont yn byw yn eu cyflwr naturiol heb yr ail-enedigaeth. Yr ail, yn tueddu i gyfarwyddo ac i berswadio y duwiol, a'r rhai a ail-anwyd i amryw ddledswyddau enedkigol. Gan Tho, Gouge gweinidog yr efengyl. Ac a gyfieithwyd yn gymraec gan W. Jones gweinidog yr egengyl.
Printiedig in Llundain : gan A. Maxwell i'r Awdwr, in y flwyddyn 1676Printiedig yn Llundain : gan A. Maxwell i'r Awdwr, yn y flwyddyn 1676
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Gwedi imi ddangos y Moddion trwy y rhai y cyflawnir gwaith Marweddiad; yr wyfi in dyfod in awr i ddangos y Mod y dylem ei gyflawni.
Gwedi imi ddangos y Moddion trwy y rhai y cyflawnir gwaith Marweddiad; yr wyfi yn dyfod yn awr i ddangos y Modd y dylem ei gyflawni.
1. Rhaid i'n Marweiddiad fôd, ar frŷs, allan o law. Dechreu heddyw, dôd y fwyall in ebrwydd ar wreiddin y prenniau hyn; a pha brŷd bynnag y caffech Ddiafol in gweithio, ac in chwythu marwor Trachwant, bid mewn arfau ar frŷs, nâd i bechod gael amser i godly ei ben in dy erbyn, gwrthwyneba ef in ei gynhyrfiad a'i gychwyniad cyntaf. Oedi in hyn sydd beryglus jawn. Y trachwant a ellir a'r y cyntaf in hawdd ei orchfygu, fe fydd anhawdd gwedi hynny ei gadw ef i lawr.
1. Rhaid i'n Marweiddiad fôd, ar frŷs, allan o law. Dechreu heddyw, dôd y fwyall yn ebrwydd ar wreiddin y prenniau hyn; a pha brŷd bynnag y caffech Ddiafol yn gweithio, ac yn chwythu marwor Trachwant, bydd mewn arfau ar frŷs, nâd i bechod gael amser i godi ei ben yn dy erbyn, gwrthwyneba ef yn ei gynhyrfiad a'i gychwyniad cyntaf. Oedi yn hyn sydd beryglus iawn. Y trachwant a ellir a'r y cyntaf yn hawdd ei orchfygu, fe fydd anhawdd gwedi hynny ei gadw ef i lawr.
Pa'm na byddem mor gall am ein eneidiau, ac ydym am ein Cyrph? Pwy, pan dafler tân iw fynwes, neu iw Dŷ, na fwrw ef a'r frŷs allan, ac a'i diffydd? Gwae i'r ffyliaid hynny, y rhai a adawant y tân uffernol hwn in llonydd, ac a gellweiriant gyhyd, hid oni chaffo feistrolaeth arnynt. Chychwi y rhai y mae eich trachwantau, trwy eich esgeulustra eich hunain, wedi torri allan in fflamm, ofnwch rhag ei bôd in rhyhwyr eu diffoddi: ofnwch rhag i'r tân hwn, wedi ei esgeuluso gyhyd o amser, losgi bellach i waelod uffern.