A41643:468
Gair i bechaduriaid, a gair i saint Y cyntaf in tueddu i ddeffrôi cydwybodau…Gair i bechaduriaid, a gair i sainct Y cyntaf yn tueddu i ddeffrôi cydwybodau…
Gair i bechaduriaid, a gair i saint Y cyntaf in tueddu i ddeffrôi cydwybodau pechaduriaid diofal, i wîr deimlad ac ysturiaeth o'r cyflwr erchyll y maent ynddo, tra fyddont in byw in eu cyflwr naturiol heb yr ail-enedigaeth. Yr ail, in tueddu i gyfarwyddo ac i berswadio y duwiol, a'r rhai a ail-anwyd i amryw ddledswyddau enedkigol. Gan Tho, Gouge gweinidog yr efengyl. Ac a gyfieithwyd in gymraec gan W. Jones gweinidog yr egengyl.Gair i bechaduriaid, a gair i sainct Y cyntaf yn tueddu i ddeffrôi cydwybodau pechaduriaid diofal, i wîr deimlad ac ysturiaeth o'r cyflwr erchyll y maent ynddo, tra fyddont yn byw yn eu cyflwr naturiol heb yr ail-enedigaeth. Yr ail, yn tueddu i gyfarwyddo ac i berswadio y duwiol, a'r rhai a ail-anwyd i amryw ddledswyddau enedkigol. Gan Tho, Gouge gweinidog yr efengyl. Ac a gyfieithwyd yn gymraec gan W. Jones gweinidog yr egengyl.
Printiedig in Llundain : gan A. Maxwell i'r Awdwr, in y flwyddyn 1676Printiedig yn Llundain : gan A. Maxwell i'r Awdwr, yn y flwyddyn 1676
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
II. Mod arall, o'n rhan ni iw arfer a'i gyflawni o ran Marweiddio ein chwantau pechadurus, ydyw, Dyfalochelyd holl achosion pechod, a phrosedigaethau iddo. Y nêb a gellweirio ag achosion pechod, mae 'n enbyd iddo syrthio. Nid yw 'r nêb a feiddia ruthro i demtasiwnau pechod, neppell oddiwrth ei wneuthur ef. Dal sulw gan hynny pa achosion a chyfléodd, pa foddion a chwmpeini a roesant gymmorth i'th chwant di iw roddi ei hun allan, a gochel hwynt megis uffern. Rhan o wîr ddoethineb ysprydol yw hyn, gweled pechod o hirbell in ei achosion, a thrwy ochel y nail i ragflaenu 'r llall.
II. Modd arall, o'n rhan ni iw arfer a'i gyflawni o ran Marweiddio ein chwantau pechadurus, ydyw, Dyfalochelyd holl achosion pechod, a phrosedigaethau iddo. Y nêb a gellweirio ag achosion pechod, mae 'n enbyd iddo syrthio. Nid yw 'r nêb a feiddia ruthro i demtasiwnau pechod, neppell oddiwrth ei wneuthur ef. Dal sulw gan hynny pa achosion a chyfléodd, pa foddion a chwmpeini a roesant gymmorth i'th chwant di iw roddi ei hun allan, a gochel hwynt megis vffern. Rhan o wîr ddoethineb ysprydol yw hyn, gweled pechod o hirbell yn ei achosion, a thrwy ochel y naill i ragflaenu 'r llall.
III. Dal sulw ar y gweithrediad cyntaf o Lygredigaeth in dy gallon, a lletha ef in ddiwyd, a nâd iddo gael y maes in y lleiaf. Na ddywed, hid yma y ceiff ef fined, a dim pellach. Dyro fodfedd i bechod, ac in fuan fe fin lathen, fell y mae 'r ddihareb. Meddyliau aflan in fynych a gynnyddasant i aflendid oddiallan, a godineb gweithredol, Mat. 15.19. O'r gallon, medd ein Jachawdr, y mae meddyliau drwg in dyfod allan, torr-priodasau, godinebau, &c. Gan nodi fôd meddyliau drŵg in achos o aflendid in y fuchedd.
III. Dal sulw ar y gweithrediad cyntaf o Lygredigaeth yn dy galon, a lletha ef yn ddiwyd, a nâd iddo gael y maes yn y lleiaf. Na ddywed, hyd yma y ceiff ef fyned, a dim pellach. Dyro fodfedd i bechod, ac yn fuan fe fyn lathen, fel y mae 'r ddihareb. Meddyliau aflan yn fynych a gynnyddasant i aflendid oddiallan, a godineb gweithredol,