A41643:98
Gair i bechaduriaid, a gair i saint Y cyntaf in tueddu i ddeffrôi cydwybodau…Gair i bechaduriaid, a gair i sainct Y cyntaf yn tueddu i ddeffrôi cydwybodau…
Gair i bechaduriaid, a gair i saint Y cyntaf in tueddu i ddeffrôi cydwybodau pechaduriaid diofal, i wîr deimlad ac ysturiaeth o'r cyflwr erchyll y maent ynddo, tra fyddont in byw in eu cyflwr naturiol heb yr ail-enedigaeth. Yr ail, in tueddu i gyfarwyddo ac i berswadio y duwiol, a'r rhai a ail-anwyd i amryw ddledswyddau enedkigol. Gan Tho, Gouge gweinidog yr efengyl. Ac a gyfieithwyd in gymraec gan W. Jones gweinidog yr egengyl.Gair i bechaduriaid, a gair i sainct Y cyntaf yn tueddu i ddeffrôi cydwybodau pechaduriaid diofal, i wîr deimlad ac ysturiaeth o'r cyflwr erchyll y maent ynddo, tra fyddont yn byw yn eu cyflwr naturiol heb yr ail-enedigaeth. Yr ail, yn tueddu i gyfarwyddo ac i berswadio y duwiol, a'r rhai a ail-anwyd i amryw ddledswyddau enedkigol. Gan Tho, Gouge gweinidog yr efengyl. Ac a gyfieithwyd yn gymraec gan W. Jones gweinidog yr egengyl.
Printiedig in Llundain : gan A. Maxwell i'r Awdwr, in y flwyddyn 1676Printiedig yn Llundain : gan A. Maxwell i'r Awdwr, yn y flwyddyn 1676
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Rhes. 1. Oddiwrth anghyfnewidioldeb arfaeth Duw. Duw yr hwn a'n dewisodd i fywyd, a'n dewisodd hefyd i sancteiddrwydd, megis y ford i hynny: Nyni a ddylem ddiolch in wastad i Dduw trosoch chwi, frodyr caredig gan yr Arglwydd, oblegid i Dduw o'r dechrevad eich ethol chwi i Jechydwriaeth, trwy sancteiddiad yr yspryd, 2 Thes. 2.13. Pwy bynnag a fynno fined i mewn i ogoniant, rhaid iddo gymeryd grâs in ei ford. Chwi a ofynnwch, pam na allafi fôd in gadwedig, oni byddafi ail-enedig? Pam? Oblegid i Dduw lwyr-fwriadu y gwrthwyneb. Hyn yw ewyllys Duw, eich sancteiddiad in gyntaf; wedi hynny eich Jechydwriaeth, 1 Thes. 4.3.
Rhes. 1. Oddiwrth anghyfnewidioldeb arfaeth Duw. Duw yr hwn a'n dewisodd i fywyd, a'n dewisodd hefyd i sancteiddrwydd, megis y ffordd i hynny: Nyni a ddylem ddiolch yn wastad i Dduw trosoch chwi, frodyr caredig gan yr Arglwydd, oblegid i Dduw o'r dechreuad eich ethol chwi i Jechydwriaeth, trwy sancteiddiad yr yspryd, 2 Thes. 2.13. Pwy bynnag a fynno fyned i mewn i ogoniant, rhaid iddo gymeryd grâs yn ei ffordd. Chwi a ofynnwch, pam na allafi fôd yn gadwedig, oni byddafi ail-enedig? Pam? Oblegid i Dduw lwyr-fwriadu y gwrthwyneb. Hyn yw ewyllys Duw, eich sancteiddiad yn gyntaf; wedi hynny eich Jechydwriaeth, 1 Thes. 4.3.
Yr awron, pwrpasson Duw a saif. Nid oes gydag ef na chyfnewidiad, na chysgod troedigaeth, Jac. 1.17. Fe ddemnir in gynt yr holl fŷd, nag y bo i bwrpas Duw fined in offer. Rhaid i'r Arglwydd na bo in Dduw anghyfnewidiol, os biddy di, yr hwn ni finny dy sancteiddio, bŷth in gadwedig.
Yr awron, pwrpasson Duw a saif. Nid oes gydag ef na chyfnewidiad, na chysgod troedigaeth,