Pob máth a'r aflendid, in gystal o'r enaid oddifewn, ac o'r Corph oddiallan. Nid in unig y gwaith oddiallan ⟨p. 37⟩o Butteindra a Godineb a warafunir yma, and hefyd pob geiriau trythill, ac ymadrodd llygredig, pob meddwl a bwriad anniwair, pob brynti ac aflendid fyfyrdodol a synniedigol oddifewn; y rhai sydd nid in unig in bechadurus ynddynt eu hunain, and hefyd in llattaion yr aflendid oddiallan. Canys, pan fo chwant wedi ymddwyn, fo escor a'r bechod. Jac. 1. 15. Pan ymddyger meddyliau aflan in y gallon, maent in fuan in escor a'r bechod, ac in torri allan i weithredoedd o frynti ac aflendid. Fell y mynnech chwi gan hynny ochelyd y weithred front o aflendid oddiallan, byddwch ddiwyd i lethu pob meddwl trythill aflan, pan ddechrevo ymgodi in eich calonnau.
Pob máth a'r aflendid, yn gystal o'r enaid oddifewn, ac o'r Corph oddiallan. Nid yn unig y gwaith oddiallan ⟨p. 37⟩o Butteindra a Godineb a warafunir yma, ond hefyd pob geiriau trythill, ac ymadrodd llygredig, pob meddwl a bwriad anniwair, pob brynti ac aflendid fyfyrdodol a synniedigol oddifewn; y rhai sydd nid yn unig yn bechadurus ynddynt eu hunain, ond hefyd yn llattaion yr aflendid oddiallan. Canys, pan fo chwant wedi ymddwyn, fo escor a'r bechod. Jac. 1. 15. Pan ymddyger meddyliau aflan yn y galon, maent yn fuan yn escor a'r bechod, ac yn torri allan i weithredoedd o frynti ac aflendid. Fel y mynnech chwi gan hynny ochelyd y weithred front o aflendid oddiallan, byddwch ddiwyd i lethu pob meddwl trythill aflan, pan ddechreuo ymgodi yn eich calonnau.