A41646:705
Principlau neu bennau y grefydd Ghristianogol a agorir fell y gallo y gwannaf eu…Principlau neu bennau y grefydd Ghristianogol a agorir fel y gallo y gwannaf eu…
Principlau neu bennau y grefydd Ghristianogol a agorir fell y gallo y gwannaf eu deal / gan T.G.Principlau neu bennau y grefydd Ghristianogol a agorir fel y gallo y gwannaf eu deall / gan T.G.
Llundain : Printiedig in Llundain gan A. Maxwell i'r awdwr in y flwyddyn, 1676Llundain : Printiedig yn Llundain gan A. Maxwell i'r awdwr yn y flwyddyn, 1676
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Cwest.
Beth yr ydych chwi in ei ofyn in y Dymuniad hwn?
Beth yr ydych chwi yn ei ofyn yn y Dymuniad hwn?
Atteb.
A'r ini, ac i holl ddynion y bŷd wneuthur cwyllys Duw, fell y gwneir gan yr Angylion gogoneddus in y Nefoedd.
A'r ini, ac i holl ddynion y bŷd wneuthur cwyllys Duw, fel y gwneir gan yr Angylion gogoneddus yn y Nefoedd.
Nid yw y gair bychan [Fell] in y Dymuniad hwn, in nôd o gyfartalwch neu gystadledd, and o debygoliaeth a chyff'lybrwydd; Canys ni allwn ni yma gystadlu yr Angylion gogoneddus in gwneuthur ewyllys Duw. etto ni allwn, ac a ddylem fod in debyg iddynt in y gwasanaeth hyn. Fell y maent hwy in gwneuthur ewyllys Duw mewn pob purdeb ac uniondeb, gan ymostwng in hollawl i bob rhan o hono; gan lawenychu mewn pob parodrwydd hyfryd i wneuthur ei ewyllys ef; fell hefyd mewn pob Zêl duwiol gwresog; oblegid yr hyn y dywedir eu bod hwy, in fflam o dân: felly y dylem ninuau geisio eu dilyn hwynt in ein ufudd-dod, gan fod hyn in fwyd ac in ddiod ini, self, gwneuthur ewyllys ein Tâd nefol.