Esponniad byrr o Weddi'r Arglwydd.
pp. 39–46136 passagespart 2 of 4
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Felly mae Duw in teyrnasu,
Felly mae Duw yn teyrnasu,
1. Trwy ei Allu mawr perffaith-gwbl a'r yr holl Fŷd.
2. Trwy ei Râs enwedigol a'r ei Eglwys, in ôl yr hyn y mae ei Deyrnas ef in wahanredol. Canys,
2. Trwy ei Râs enwedigol a'r ei Eglwys, yn ôl yr hyn y mae ei Deyrnas ef yn wahanredol. Canys,
1. Mae ganddo Deyrnas hollawl Gyffredinol, yr hon a elwir Teyrnas ei Allu ef, oblegid trwy ei Nerth a'i Allu Goruchel mae in rheoli a'r bob mâth o Greaduriaid. Nid y Deyrnas hon a ddeellir yma mewn mod priodol.
1. Mae ganddo Deyrnas hollawl Gyffredinol, yr hon a elwir Teyrnas ei Allu ef, oblegid trwy ei Nerth a'i Allu Goruchel mae yn rheoli a'r bob mâth o Greaduriaid. Nid y Deyrnas hon a ddeellir yma mewn modd priodol.
2. Mae ganddo Deyrnas neillduol Briodol, trwy'r honey mae in teyrnasu a'r bobl neillduol didoledig, a elwir ei Eglwys ef.
2. Mae ganddo Deyrnas neillduol Briodol, trwy'r hon y mae yn teyrnasu a'r bobl neillduol didoledig, a elwir ei Eglwys ef.