A76162:125
Dattodiad y qwestiwn mawr, beth sydd raid i ni ei wneuthur fell y byddom…Dattodiad y qwestiwn mawr, beth sydd raid i ni ei wneuthur fel y byddom…
Dattodiad y qwestiwn mawr, beth sydd raid i ni ei wneuthur fell y byddom gadwedig. Athrawiaethau i fuchedd sanctaidd. / O waith y disinydd parchedig Mr. Richard Baxter.Dattodiad y qwestiwn mawr, beth sydd raid i ni ei wneuthur fel y byddom gadwedig. Athrawiaethau i fuchedd sanctaidd. / O waith y disinydd parchedig Mr. Richard Baxter.
Printiedig in Llundain : gan Tho. Whitledge a W. Everingham, 1693Printiedig yn Llundain : gan Tho. Whitledge a W. Everingham, 1693
Title page typeset from the transcription.
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
13. Ceisiwch deal ammodau union cymmundeb Eglwysig, in enwedig undeb yr Eglwys gyffredinol, a'r Cymmundeo cyffredinol, yr hwn sydd raid i chwi ddal â'r holl rannau, a'r rhagoriaeth rhwng yr Eglwys megis gweledig ac anwelelig. O herwydd ddiffyg y rhai hyn, mor alarus ydyw 'r naillduaeth ac ymbleidio sydd in ein plith ni? Darllennwch in fynych, 1 Cor. 12. ac Eph. 4. 1. hid y 17. Joan 17. 21, 22, 23. Act 4. 32. ac 2. 42. 1 Cor. 1. 10, 11, 13. ac 3. 3. Rhuf. 16. 17. Phil. 2. 1, 2, 3, 4. 1 Thes. 5. 12, 13. Act 20. 30. 1 Cor. 11. 19. Tit. 3. 10. Jag. 3. Col. 1. 4. Heb. 10. 25. Act 8. 12, 13, 37. 1 Cor. 1. 2, 13. ac 3. 3, 4. 11. 18, 21. A studiwch y rhai hyn in dda. Rhaid ydyw bod gennych undeb a chymmundeb mewn ffydd a chariad â'r holl Gristianogion in y bid. Ac na wrthodwch gymmundeb lleawl, pan so gennych alwad cyfiawn, cyn belled ac y maent heb eich cymmhell i bechu. Bydded eich cysarfod arferol chwi gydâ yr Eglwys buraf, os y chwi all in gyfraithlon (ac sith edrychwch ar y daioni cyhoeddus:) and weithiau ar achosion byddwch gyfrannogion gydâ Eglwysydd diffygiol, beius, os ydynt in wir▪ Gristianogion, ac heb eich gyrru chwi i bechu, fell y bo i chwi felly ddangos eich bod chwi in eu perchennogi hwynt megis Cristianogion, er eich bod chwi in gwrthod eu llygredigaethau ⟨p. 43⟩hwynt. Na feddyliwch fod eich presennoldeb chwi in gwneuthur holl feiau y weinidogaeth, Addoliad, neu bobl i fod in eiddo chwi (canys yna ni unwn ni ag yr un Eglwys in y bid) gwybyddwch megis ac y mae 'r Eglwys ddirgel in cydsefyll o ray sydd in gwneuthur cyfammod o'r gallon, felly y mae 'r Eglwys weledig in cydsefyll o ray fydd in gwneuthur cysammod ar air y rhai ydynt in gwneuthur profess gredadwy o gyttundeb: Ac mae nature a'r scrythur in ein dyscu ni i gymmeryd gair pob din megis in gredadwy, hid oni bid anffyddlondeb in fforfettio ei gredit ef; y fforffed hon sydd raid ei phrifio, cyn y gellir cymmeryd yr un proofs sobr in hawl anddigonol. Na