A76162:186
Dattodiad y qwestiwn mawr, beth sydd raid i ni ei wneuthur fell y byddom…Dattodiad y qwestiwn mawr, beth sydd raid i ni ei wneuthur fel y byddom…
Dattodiad y qwestiwn mawr, beth sydd raid i ni ei wneuthur fell y byddom gadwedig. Athrawiaethau i fuchedd sanctaidd. / O waith y disinydd parchedig Mr. Richard Baxter.Dattodiad y qwestiwn mawr, beth sydd raid i ni ei wneuthur fel y byddom gadwedig. Athrawiaethau i fuchedd sanctaidd. / O waith y disinydd parchedig Mr. Richard Baxter.
Printiedig in Llundain : gan Tho. Whitledge a W. Everingham, 1693Printiedig yn Llundain : gan Tho. Whitledge a W. Everingham, 1693
Title page typeset from the transcription.
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Gweddi blaen a Byrr iw harfer mewn Teuluoedd, foreu a hwyr.
Holl-alluog a thra-grasusaf Dduw, yr hwn wit in gweled pob peth! y Bŷd a'r hyn ôll sydd ynddo, a greuwyd, a gynhelir, ac a drefnir gennit ti: Yr wit ti in bresennol ym mhôb man, gan fod in fwy nag enaid i'r holl fŷd.
HOll-alluog a thra-grasusaf Dduw, yr hwn wyt yn gweled pob peth! y Bŷd a'r hyn ôll sydd ynddo, a greuwyd, a gynhelir, ac a drefnir gennit ti: Yr wyt ti yn bresennol ym mhôb mann, gan fod yn fwy nag enaid i'r holl fŷd.
Er dy fod ti in ddatcuddiedig in dy dra rhagorol ogoniant, ir rhai hynny in unig y sy'n presswylio in y nêf: Etto y mae dy râs di in oestadol ar waith ar y ddaiar, i gymhwyso dynion ir Gogoniant hwnnw.
Er dy fod ti yn ddatcuddiedig yn dy dra rhagorol ogoniant, ir rhai hynny yn vnig y sy'n presswylio yn y nêf: Etto y mae dy râs di yn oestadol ar waith ar y ddaiar, i gymhwyso dynion ir Gogoniant hwnnw.
Ti a'n gwnaethost ni, nid megis yr Anifeiliaid a ddifethir, and ag Eneidiau anfarwol gennym, i'th adnabod, a'th geisio, a'th wasanaethu di ymma, ac ar ôl hynny, i fyw gydâ 'r holl ray bendigedig, i feddiannu golwg tragwyddol ar dy Nefol Ogoniant di, a digonolrwydd o lawenydd oddiwrth dy berffaith Gariad a'th foliant.