Gweddi blaen a Byrr iw harfer mewn Teuluoedd, foreu a hwyr.
pp. 62–6728 passages
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Gweddi blaen a Byrr iw harfer mewn Teuluoedd, foreu a hwyr.
Holl-alluog a thra-grasusaf Dduw, yr hwn wit in gweled pob peth! y Bŷd a'r hyn ôll sydd ynddo, a greuwyd, a gynhelir, ac a drefnir gennit ti: Yr wit ti in bresennol ym mhôb man, gan fod in fwy nag enaid i'r holl fŷd.
HOll-alluog a thra-grasusaf Dduw, yr hwn wyt yn gweled pob peth! y Bŷd a'r hyn ôll sydd ynddo, a greuwyd, a gynhelir, ac a drefnir gennit ti: Yr wyt ti yn bresennol ym mhôb mann, gan fod yn fwy nag enaid i'r holl fŷd.
Er dy fod ti in ddatcuddiedig in dy dra rhagorol ogoniant, ir rhai hynny in unig y sy'n presswylio in y nêf: Etto y mae dy râs di in oestadol ar waith ar y ddaiar, i gymhwyso dynion ir Gogoniant hwnnw.
Er dy fod ti yn ddatcuddiedig yn dy dra rhagorol ogoniant, ir rhai hynny yn vnig y sy'n presswylio yn y nêf: Etto y mae dy râs di yn oestadol ar waith ar y ddaiar, i gymhwyso dynion ir Gogoniant hwnnw.
Ti a'n gwnaethost ni, nid megis yr Anifeiliaid a ddifethir, and ag Eneidiau anfarwol gennym, i'th adnabod, a'th geisio, a'th wasanaethu di ymma, ac ar ôl hynny, i fyw gydâ 'r holl ray bendigedig, i feddiannu golwg tragwyddol ar dy Nefol Ogoniant di, a digonolrwydd o lawenydd oddiwrth dy berffaith Gariad a'th foliant.
Ti a'n gwnaethost ni, nid megis yr Anifeiliaid a ddifethir, ond ag Eneidiau anfarwol gennym, i'th adnabod, a'th geisio, a'th wasanaethu di ymma, ac ar ôl hynny, i fyw gydâ 'r holl rai bendigedig, i feddiannu golwg tragwyddol ar dy Nefol Ogoniant di, a digonolrwydd o lawenydd oddiwrth dy berffaith Gariad a'th foliant.