A76162:201
Dattodiad y qwestiwn mawr, beth sydd raid i ni ei wneuthur fell y byddom…Dattodiad y qwestiwn mawr, beth sydd raid i ni ei wneuthur fel y byddom…
Dattodiad y qwestiwn mawr, beth sydd raid i ni ei wneuthur fell y byddom gadwedig. Athrawiaethau i fuchedd sanctaidd. / O waith y disinydd parchedig Mr. Richard Baxter.Dattodiad y qwestiwn mawr, beth sydd raid i ni ei wneuthur fel y byddom gadwedig. Athrawiaethau i fuchedd sanctaidd. / O waith y disinydd parchedig Mr. Richard Baxter.
Printiedig in Llundain : gan Tho. Whitledge a W. Everingham, 1693Printiedig yn Llundain : gan Tho. Whitledge a W. Everingham, 1693
Title page typeset from the transcription.
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
In ddiammeu nid wit ti in ymhoffi ym marwolaeth pechaduriaid, and in hyttrach ar iddynt ddychwelyd a byw: Pe buasit ti anewyllysgar i ddangos Trugaredd, ni phrynasit ti mo honom ni â phrîs mor werthfawr; ac ni ddeisyfiasit ti arnom ni cyn fynyched i ymheddychu ⟨p. 65⟩â thydi: Nid oes gennym achos i wanffyddio dy wirionedd neu 'th ddaioni di; eithr yr ym ni'n ofni, rhac cael o honom ein difetha gan Anghrediniaeth, a balchder, a rhagrith, a chalon fydol gnawdol. O cadw ni rhac Satan, a'r bid hudolaidd hwn, and in enwedigol rhagom ein hunain. Disc i ni wadu pob annuwioldob a chwantau cnawdol, a byw in sobr, in gyfiawn, ac in dduwiol in y bŷd sydd yr awron.
Yn ddiammeu nid wyt ti yn ymhoffi ym marwolaeth pechaduriaid, ond yn hyttrach ar iddynt ddychwelyd a byw: Pe buasit ti anewyllysgar i ddangos Trugaredd, ni phrynasit ti mo honom ni â phrîs mor werthfawr; ac ni ddeisyfiasit ti arnom ni cyn fynyched i ymheddychu ⟨p. 65⟩â thydi: Nid oes gennym achos i wanffyddio dy wirionedd neu 'th ddaioni di; eithr yr ym ni'n ofni, rhac cael o honom ein difetha gan Anghrediniaeth, a balchder, a rhagrith, a chalon fydol gnawdol. O cadw ni rhac Satan, a'r byd hudolaidd hwn, ond yn enwedigol rhagom ein hunain. Dysc i ni wadu pob annuwioldob a chwantau cnawdol, a byw yn sobr, yn gyfiawn, ac yn dduwiol yn y bŷd sydd yr awron.
Gwna i ni ymdrechu i wneuthur hyn in orchwyl penaf i ni beunydd, self i ryngu bodd i ti, i drossori Tryssorau in y Nêf, i siccrhau i ni'n hunain fywyd gwynsydedig gydâ Christ, ac i ymddiried in heddychlon i ti am ein heneidlau a'n cyrph.
Gwna i ni ymdrechu i wneuthur hyn yn orchwyl penaf i ni beunydd, sef i ryngu bodd i ti, i drossori Tryssorau yn y Nêf, i siccrhau i ni'n hunain fywyd gwynsydedig gydâ Christ, ac i ymddiried yn heddychlon i ti am ein heneidlau a'n cyrph.