Nid yw yr Escobion, a Bugeiliaid yr Eglwys in maddeu pechod trwy unrhyw gyflawn awdurdod o honynt eu hunain, (canys felly in unig y mae eu Meïstr Christ in maddau pechodau) eithr in weinidogawl, megis gweision i Grist a'i oruchwiliwyr, o herwydd ddarfod iw Harglwydd a'i Meistr roddi ei agoriadau in eu hymddiried ffyddlawn hwynt; a hynny yw, pan fyddont in mynegi neu in adrodd, nail a'i in gyhoeddus, a'i 'n ddirgel trwy air Duw y peth a rwymo, neu y peth a ryddhâo; a thrugareddau Duw i bechaduriaid edifeiriol, neu ei Farn i bechaduriaid styfnig di-edifeiriol: ac felly in cymhwyso yr addewidion cyffredinol, neu fygythiau, i'r edifeiriol, neu i'r di-edifeiriol. Canys y mae Christ o'r nefoedd trwyddynt hwy (megis trwy ei weinidogion daiarol) in adrodd pwy y mae ef in ei ryddhau a'i rwymo, ac i bwy i'r egyr ef birth y nefoedd, ac in erbyn pa ray y cava efe hwynt. Ac am hynny nid ydis in dywedyd, pechodau pa ray bynnac a arwyddoccâoch chwi eu bod in cael eu rhyddhâu, eithr pechodau yr hwn y ryddhaoch chwi. Y maent hwy gan hynny in rhyddhau pechodau, oblegit bod Christ trwy eu gweinidogaeth hwynt in rhyddhau pechodau, megis y darfu i Grist trwy ei ddisgyblion ollwng Lazarus in rhydd, Joan. 11.44. Ac fell na allay un dwfr arall olchi ymmaith wahanglwyf Naaman, ⟨p. 396⟩and dwfr yr Jorddonen, (er bod afonydd eraill mor loiwon) oblegit bod yr addewid wedi ei gysylltu at ddwfr yr Jorddonen, ac nid at afonydd eraill; felly er gallael o ddŷn arall adrodd yr un geiriau, etto nid oes iddynt mor cyffelib nerth i weithio in y gydwybod, megis y mae pan fyddont wedi eu hadrodd o enau Gweinidogion Duw: oblegit bod yr addewid gwedi ei gysylltu at air Duw in eu genau hwynt: Joan 20.22, 23. Canys hwynt hwy a etholodd efe, a alwodd, ac a neillduodd efe i'r gorchwyl hwn, ac iddynt hwy y gorchymynnodd efe weinidogaeth y Cymmod. Trwy eu sanctaidd alwedigaeth, a'u hordeiniad hwy a dderbynniasant yr Yspryd glân, a'r gallu gweinidogawl o rwymo a rhyddhau. Hwynt hwy a ddanfonwyd allan gan yr Yspryd glân, i'r gorchwyl hwn, i'r hwn y galwyd hwynt. Act. 1.24. Rhu. 1.1. 2 Cor. 5.18. Act. 13.2.24. Tit. 1.5.
Nid yw yr Escobion, a Bugeiliaid yr Eglwys yn maddeu pechod trwy vnrhyw gyflawn awdurdod o honynt eu hunain, (canys felly yn vnig y mae eu Meïstr Crist yn maddau pechodau) eithr yn weinidogawl, megis gweision i Grist a'i oruchwiliwyr, o herwydd ddarfod iw Harglwydd a'i Meistr roddi ei agoriadau yn eu hymddiried ffyddlawn hwynt; a hynny yw, pan fyddont yn mynegi neu yn adrodd, naill a'i yn gyhoeddus, a'i 'n ddirgel trwy air Duw y peth a rwymo, neu y peth a ryddhâo; a thrugareddau Duw i bechaduriaid edifeiriol, neu ei Farn i bechaduriaid styfnig di-edifeiriol: ac felly yn cymhwyso yr addewidion cyffredinol, neu fygythiau, i'r edifeiriol, neu i'r di-edifeiriol. Canys y mae Crist o'r nefoedd trwyddynt hwy (megis trwy ei weinidogion daiarol) yn adrodd pwy y mae ef yn ei ryddhau a'i rwymo, ac i bwy i'r egyr ef byrth y nefoedd, ac yn erbyn pa rai y caua efe hwynt. Ac am hynny nid ydis yn dywedyd, pechodau pa rai bynnac a arwyddoccâoch chwi eu bod yn cael eu rhyddhâu, eithr pechodau yr hwn y ryddhaoch chwi. Y maent hwy gan hynny yn rhyddhau pechodau, oblegit bod Crist trwy eu gweinidogaeth hwynt yn rhyddhau pechodau, megis y darfu i Grist trwy ei ddisgyblion ollwng Lazarus yn rhydd, Ioan. 11.44. Ac fel na allai vn dwfr arall olchi ymmaith wahanglwyf Naaman, ⟨p. 396⟩ond dwfr yr Iorddonen, (er bod afonydd eraill mor loiwon) oblegit bod yr addewid wedi ei gysylltu at ddwfr yr Iorddonen, ac nid at afonydd eraill; felly er gallael o ddŷn arall adrodd yr vn geiriau, etto nid oes iddynt mor cyffelib nerth i weithio yn y gydwybod, megis y mae pan fyddont wedi eu hadrodd o enau Gweinidogion Duw: oblegit bod yr addewid gwedi ei gysylltu at air Duw yn eu genau hwynt: Joan 20.22, 23. Canys hwynt hwy a etholodd efe, a alwodd, ac a neillduodd efe i'r gorchwyl hwn, ac iddynt hwy y gorchymynnodd efe weinidogaeth y Cymmod. Trwy eu sanctaidd alwedigaeth, a'u hordeiniad hwy a dderbynniasant yr Yspryd glân, a'r gallu gweinidogawl o rwymo a rhyddhau. Hwynt hwy a ddanfonwyd allan gan yr Yspryd glân, i'r gorchwyl hwn, i'r hwn y galwyd hwynt. Act. 1.24. Rhu. 1.1. 2 Cor. 5.18. Act. 13.2.24. Tit. 1.5.