Saith o feddyliau sancteiddiol, ac ocheneidiau galarus un claf lêsc in barod i farw.Saith o feddyliau sancteiddiol, ac ocheneidiau galarus vn claf lêsc yn barod i farw.
pp. 386–39330 passages
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Saith o feddyliau sancteiddiol, ac ocheneidiau galarus un claf lêsc in barod i farw.
Saith o feddyliau sancteiddiol, ac ocheneidiau galarus vn claf lêsc yn barod i farw.
YR awrhon in gymmaint a bod Duw o'i anfeidrol drugaredd felly in tymeru ein poen a'n clefyd, fell nad ydym ni orthrymmedig bob amser gan eitha gofid; eithr weithiau ynghanol ein trymgur ⟨p. 387⟩a'n cystudd y mae in cennadu i nibeth esmwythder a llonyddwch, i'n cyssuro a'n dadebru ein hunain: y mae 'n rhaid i ti gymmeryd prif offal (gan ystyried mor fir yw 'r amser sydd i ti, nail a'i i ynnill, a'i i golly y nefoedd in dragwyddol) i wneuthur y gorau o bob amser a roddo Duw i ti i gymeryd anadl: a thra fo yr ychydig amser o esmwythder, i gasclu nerth in erbyn gofidiau mwy. Gan hynny in y prydiau hyn o esmwythâad, arfer o ray or meddyliau ar ocheneidiau byrrion sydd in canlyn.
YR awrhon yn gymmaint a bod Duw o'i anfeidrol drugaredd felly yn tymeru ein poen a'n clefyd, fel nad ydym ni orthrymmedig bob amser gan eitha gofid; eithr weithiau ynghanol ein trymgur ⟨p. 387⟩a'n cystudd y mae yn cennadu i ni beth esmwythder a llonyddwch, i'n cyssuro a'n dadebru ein hunain: y mae 'n rhaid i ti gymmeryd prif ofal (gan ystyried mor fyrr yw 'r amser sydd i ti, naill a'i i ynnill, a'i i golli y nefoedd yn dragwyddol) i wneuthur y gorau o bob amser a roddo Duw i ti i gymeryd anadl: a thra fo yr ychydig amser o esmwythder, i gasclu nerth yn erbyn gofidiau mwy. Gan hynny yn y prydiau hyn o esmwythâad, arfer o rai or meddyliau ar ocheneidiau byrrion sydd yn canlyn.