A76257:1296
Printiedig in Llundain : gan Tho. Dawks, 1675Printiedig yn Llundain : gan Tho. Dawks, 1675
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
11. Nad yw aberth Cristianogion ddim arall, and ysprydol aberthu eu heneidiau a'i cyrph i wasanaethu Duw mewn sancteiddrwydd, a chyfiawnder. Rhuf. 12.1. ac 15.16. Am hynny nid oes wir aberthiad ar Grist in yr Offeren.
11. Nad yw aberth Cristianogion ddim arall, ond ysprydol aberthu eu heneidiau a'i cyrph i wasanaethu Duw mewn sancteiddrwydd, a chyfiawnder. Rhuf. 12.1. ac 15.16. Am hynny nid oes wir aberthiad ar Grist yn yr Offeren.
12. Fod yr addoliad duwiol yr hwn a elwir doulia in gystal a latria in perthynu i Dduw in unig. Rhuf. 1.9. ac 12.11. ac 16.18. iw cydsyn nied.
12. Fod yr addoliad duwiol yr hwn a elwir doulia yn gystal a latria yn perthynu i Dduw yn vnig. Rhuf. 1.9. ac 12.11. ac 16.18. iw cydsyn nied.
13. Fod yr holl Gristianogion i weddio at Dduw in eu Tafodiaith eu hun Rhuf. 14.11.
13. Fod yr holl Gristianogion i weddio at Dduw yn eu Tafodiaith eu hun Rhuf. 14.11.
14. Nad oes genym ni o honom ein hunain mewn cyflwr llygredigaeth, ewyllys rhydd at ddaioni. Rhuf. 7.18. &c. ac 9.16.
15. Fod trachwant in yr adgenedledig in bechod. Rhuf. 7.7.8.10.
15. Fod trachwant yn yr adgenedledig yn bechod. Rhuf. 7.7.8.10.
16. Nad yw y Sacramentau in rhoddi grâs ex opere operato, or gwaith gwneuthuredig, eithr maent in arwydd ac in insel fod y grâs wedi ei roddi in barod i ni. Rhuf. 4.11.12. ac 2.28.29.
16. Nad yw y Sacramentau yn rhoddi grâs ex opere operato, or gwaith gwneuthuredig, eithr maent yn arwydd ac yn insel fod y grâs wedi ei roddi yn barod i ni. Rhuf. 4.11.12. ac 2.28.29.
17. Y dichon pob Cristion union gredadwy in y bid hwn fod in ddiogel o'i jechydwriaeth. Rhuf. 8.9.16.35. &c.
17. Y dichon pob Cristion vnion gredadwy yn y byd hwn fod yn ddiogel o'i iechydwriaeth. Rhuf. 8.9.16.35. &c.
18. Na ddichon un din in y bywyd hwn in ôl cwymp Adda berffaith gyflawni gorchymynnion Duw. Rhuf. 7.10. &c. Rhuf. 3.19. &c. Rhuf. 11.32.
18. Na ddichon vn dyn yn y bywyd hwn yn ôl cwymp Adda berffaith gyflawni gorchymynnion Duw. Rhuf. 7.10. &c. Rhuf. 3.19. &c. Rhuf. 11.32.
19. Fod gosod crefydd mewn rhagoriaeth a'r fwydydd neu ddyddiau, in ddelw-addoliaeth. Rhuf. 14.3, 5.6, 17, 23.
19. Fod gosod crefydd mewn rhagoriaeth a'r fwydydd neu ddyddiau, yn ddelw-addoliaeth. Rhuf. 14.3, 5.6, 17, 23.
20. Mai cyfiawnder cy frifol Christ, ydyw yr unig beth sydd in ein gwneuthyd ni in gyfiawn o flaen Duw. Rhuf. 4.9, 17, 23,
20. Mai cyfiawnder cy frifol Crist, ydyw yr vnig beth sydd yn ein gwneuthyd ni yn gyfiawn o flaen Duw. Rhuf. 4.9, 17, 23,
21. Fod cnawd Christ wedi ei wneuthur o hâd ⟨p. 408⟩Dafydd: nid o afarlladen trwy draws-sylweddiad. Rhuf. 1.3.
21. Fod cnawd Crist wedi ei wneuthur o hâd ⟨p. 408⟩Dafydd: nid o afarlladen trwy draws-sylweddiad. Rhuf. 1.3.
22. Fod yr holl wir Gristianogion in Seinctiau, ac nid yr rhai y mae 'r Pâb in eu cyssegru, Rhuf. 1.7. Rhuf. 8.27. ac 15.31. ac 16.2. ar 15. ac 15.25.
22. Fod yr holl wir Gristianogion yn Seinctiau, ac nid yr rhai y mae 'r Pâb yn eu cyssegru, Rhuf. 1.7. Rhuf. 8.27. ac 15.31. ac 16.2. ar 15. ac 15.25.
23. Mai ipse efe Crist, Duw yr dangneddyf: ac nid ipsa hi y Forwyn a yssygai ben y Sarph. Rhuf. 16.20.
24. Fod in rhaid i bob enaid o gydwybod, fod in ostyngedig a thalu teyrnged i'r Awdurdodau goruchel, hynny yw i'r swyddogion yr rhai sydd in dwyn y cleddyf. Rhuf. 13.1.2. &c. Ac am hynny mae 'n rhaid ir Pâb, ac ir holl Breladiaid, fod in ostyngedig iw Emerodrwyr, Brenhinoedd, au Pennaethiaid, onis mynnant ddwyn damnedigaeth ar eu heneidiau, megis Bradychwyr, y rhai a wrthwynebant Dduw a'i Ordeinhâd ef. Rhuf. 13.1.
24. Fod yn rhaid i bob enaid o gydwybod, fod yn ostyngedig a thalu teyrnged i'r Awdurdodau goruchel, hynny yw i'r swyddogion yr rhai sydd yn dwyn y cleddyf. Rhuf. 13.1.2. &c. Ac am hynny mae 'n rhaid ir Pâb, ac ir holl Breladiaid, fod yn ostyngedig iw Emerodrwyr, Brenhinoedd, au Pennaethiaid, onis mynnant ddwyn damnedigaeth ar eu heneidiau, megis Bradychwyr, y rhai a wrthwynebant Dduw a'i Ordeinhâd ef. Rhuf. 13.1.
25. Mai Paul (ac nid Petr) a ordeiniwyd trwy râs Duw i fod in brif Apostol i'r cenedloedd, ac felly in ddigwyddedig i Rufain prif Ddinas y cenedloedd: Rhuf. 15.15.16.19.20. &c. Rhuf. 11.14. ac 16.4.
25. Mai Paul (ac nid Petr) a ordeiniwyd trwy râs Duw i fod yn brif Apostol i'r cenedloedd, ac felly yn ddigwyddedig i Rufain prif Ddinas y cenedloedd: Rhuf. 15.15.16.19.20. &c. Rhuf. 11.14. ac 16.4.
26. Y dichon Eglwys Rufain gyfeiliorni, a chwympo ymmaith oddiwrth y gwirionedd, cystal ac Eglwys Jerusalem, neu un Eglwys neillduol arall. Rhuf. 11.20.21.22.
26. Y dichon Eglwys Rufain gyfeiliorni, a chwympo ymmaith oddiwrth y gwirionedd, cystal ac Eglwys Ierusalem, neu vn Eglwys neillduol arall. Rhuf. 11.20.21.22.