A76257:289
Yr ymarfer o dduwioldeb in cyfarwyddo dŷn i rodio fall y rhyngo ef Fodd…Yr ymarfer o dduvvioldeb yn cyfarvvyddo dŷn i rodio fal y rhyngo ef Fodd…
Yr ymarfer o dduwioldeb in cyfarwyddo dŷn i rodio fall y rhyngo ef Fodd Duw. Yr hwn life â osodwyd allan in saeson-sec o wraith y gwir barchedig dâd Lewis Escomb Bangor, ac a gyfieithwyd in gamber-aec o waith Row. Vaughan o gaergai o sîr feirion wr bonheddig.Yr ymarfer o dduvvioldeb yn cyfarvvyddo dŷn i rodio fal y rhyngo ef Fodd Duw. Yr hwn lyfe â osodwyd allan yn saeson-sec o wraith y gwir barchedig dâd Lewis Escomb Bangor, ac a gyfieithwyd yn gamber-aec o waith Row. Vaughan o gaergai o sîr feirion wr bonheddig.
Printiedig in Llundain : gan Tho. Dawks, 1675Printiedig yn Llundain : gan Tho. Dawks, 1675
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Neulltuol ydyw, (yr hyn mewn mesur lay o gyflawndra) sydd in discyn a'r yr enaid in ddi atteg, hwy'n gyntaf ac yr ymwahano ef oddiwrth y corph.
Neulltuol ydyw, (yr hyn mewn mesur llai o gyflawndra) sydd yn discyn a'r yr enaid yn ddi atteg, hwy'n gyntaf ac yr ymwahano ef oddiwrth y corph.
Oblegid in y munyd yr ymadawo, y mae'n bresennoll yngŵydd ac yngolwg Duw. Canys pan ballo ganddo ef welled a'i lygaid corphorol, gweled a wna mewn môdd ysprydol: fell Stephan, yr hwn a welodd ogoniant Duw, ac Jesus in sefyll ar ei ddehaulaw, ⟨p. 48⟩Act. 7.5. Neu fall gŵr a aned in ddall, ac ni welsai ddim erioed, wedi cael ei olwg drwy fawr wrthiau, in gweled yr haul, yr hwn ni wessai erioed or blaen. Ac yno trwy dystiolaoth ei gydwybod ei hûn, y mae Christ y barnwr cyfion yr hwn sy'n gwybod pob peth, in peri iddo (drwy ei anfeidrol allu) deal y gôsp a'r farn sydd ddyledus iddo am ei bechodau, a pha gyfryw fydd ei helynt dragwyddol. Ac in y mod hyn in sefyll yngolwg y nef, ac in anghymmwys o herwydd ei aflendid i fined i'r nef; yr ydis in dywedyd ei fod in sefyll ger bron gorseddfaingc Duw. Ac yno in ddisymmwth y mae 'r angylion drwg, y rhai a ddaethant iw gyrchu, in ei ddwyn bendramwnwgl i uffern; lle y cedwir ef yngharchar mewn tragwyddol boenau beunyddiol, nes dyfod y farn fawr in y did ofnadwy: eithr nid in y dygn boenau eithaf, y rhai a dderbyn ef in gwbl in y did diwaethaf.
Oblegid yn y munyd yr ymadawo, y mae'n bresennoll yngŵydd ac yngolwg Duw. Canys pan ballo ganddo ef weled a'i lygaid corphorol, gweled a wna mewn môdd ysprydol: fel Stephan, yr hwn a welodd ogoniant Duw, ac Jesu yn sefyll ar ei ddehaulaw, ⟨p. 48⟩Act. 7.5. Neu fal gŵr a aned yn ddall, ac ni welsai ddim erioed, wedi cael ei olwg drwy fawr wrthiau, yn gweled yr haul, yr hwn ni wessai erioed or blaen. Ac yno trwy dystiolaoth ei gydwybod ei hûn, y mae Crist y barnwr cyfion yr hwn sy'n gwybod pob peth, yn peri iddo (drwy ei anfeidrol allu) ddeall y gôsp a'r farn sydd ddyledus iddo am ei bechodau, a pha gyfryw fydd ei helynt dragwyddol. Ac yn y modd hyn yn sefyll yngolwg y nef, ac yn anghymmwys o herwydd ei aflendid i fyned i'r nef; yr ydis yn dywedyd ei fod yn sefyll ger bron gorseddfaingc Duw. Ac yno yn ddisymmwth y mae 'r angylion drwg, y rhai a ddaethant iw gyrchu, yn ei ddwyn bendramwnwgl i uffern; lle y cedwir ef yngharchar mewn tragwyddol boenau beunyddiol, nes dyfod y farn fawr yn y dydd ofnadwy: eithr nid yn y dygn boenau eithaf, y rhai a dderbyn ef yn gwbl yn y dydd diwaethaf.