A76257:464
Yr ymarfer o dduwioldeb in cyfarwyddo dŷn i rodio fall y rhyngo ef Fodd…Yr ymarfer o dduvvioldeb yn cyfarvvyddo dŷn i rodio fal y rhyngo ef Fodd…
Yr ymarfer o dduwioldeb in cyfarwyddo dŷn i rodio fall y rhyngo ef Fodd Duw. Yr hwn life â osodwyd allan in saeson-sec o wraith y gwir barchedig dâd Lewis Escomb Bangor, ac a gyfieithwyd in gamber-aec o waith Row. Vaughan o gaergai o sîr feirion wr bonheddig.Yr ymarfer o dduvvioldeb yn cyfarvvyddo dŷn i rodio fal y rhyngo ef Fodd Duw. Yr hwn lyfe â osodwyd allan yn saeson-sec o wraith y gwir barchedig dâd Lewis Escomb Bangor, ac a gyfieithwyd yn gamber-aec o waith Row. Vaughan o gaergai o sîr feirion wr bonheddig.
Printiedig in Llundain : gan Tho. Dawks, 1675Printiedig yn Llundain : gan Tho. Dawks, 1675
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
V. Pan glywo y dŷn di-adgenedledig, fod Duw in ymhoffi mwy in y meddwl oddifewn. nag in y dŷn oddiallan, yno y mae efe in meddwl ynddo ei hur, ⟨p. 102⟩sod pob parch, neu grefydd oddiallan, nail a'i 'n ofergoel a'i in afraid.
V. Pan glywo y dŷn di-adgenedledig, fod Duw yn ymhoffi mwy yn y meddwl oddifewn. nag yn y dŷn oddiallan, yno y mae efe yn meddwl ynddo ei hur, ⟨p. 102⟩sod pob parch, neu grefydd oddiallan, naill a'i 'n ofergoel a'i yn afraid.
O hyn y digwydda may anfynych jawn y gostwng ef a'r ei liniau in yr Eglwys: a'i fod in gwisco am ei ben wrth ganu Psalmau, neu a'r weddiau cyffredin: yr hyn beth ni chynnygiai y budredd brwnt yngŵydd tywysog, neu ŵr anrhydeddus. Ac am y catwo efe ei feddwl i Dduw, y mae in tybied mewn pethau eraill y gall ddilyn arferion y bid. Y mae efe in rhannu ei feddyliau, ac in rhoi hyn a hyn i Dduw, a hyn a hyn iw drachwantau; je efe a rêin y did Sabbôth â Duw, ac a rid gan mwyaf, y nail hanner i Dduw, ac a dreulia y llall in gyfan in ei ddifyrrwch ei hûn. Eithr gwybydd (o ddŷn cnawdol) na fin yr hollalluog Dduw mo'i wasanaethu ag hannêrau, o herwydd efe a greawdd ac a warêdodd yr holl ddŷn, Ac fell y mae Duw in ffieddio gwasanaeth y dŷn oddiallan, heb y gallon oddimewn, megis rhagrith: felly y mae ef in cyfrif gwasanaeth oddimewn, heb anrhydedd oddiallan in ffieiddbeth halogedig; y mae ef in gofyn y ddau in ei wasanaeth. In dy weddi (gan hynny) ymostwng ar dy liniau i dystiolaethu dy ostyngeiddrwydd: dercha dy olwg, a'th ddwylaw, i arwyddocau dy grediniaeth: gostwng dy ben i lawr, curâ dy ddwyfron, in arwydd o'th edifeirwch: ac in enwedig galw a'r Dduw â chalon bur: gwasanaetha ef in sanctaidd, in gyfan, ac in unig: Canys Duw, a thywysog y bid hwn, ydynt ddau Arglwydd gwrthwyneb iw gilydd, am hynny nid yw bossibl i neb wasanaethu 'r ddau.
O hyn y digwydda mai anfynych jawn y gostwng ef a'r ei liniau yn yr Eglwys: a'i fod yn gwisco am ei ben wrth ganu Psalmau, neu a'r weddiau cyffredin: yr hyn beth ni chynnygiai y budredd brwnt yngŵydd tywysog, neu ŵr anrhydeddus. Ac am y catwo efe ei feddwl i Dduw, y mae yn tybied mewn pethau eraill y gall ddilyn arferion y byd. Y mae efe yn rhannu ei feddyliau, ac yn rhoi hyn a hyn i Dduw, a hyn a hyn iw drachwantau; ie efe a rêin y dydd Sabbôth â Duw, ac a rydd gan mwyaf, y naill hanner i Dduw, ac a dreulia y llall yn gyfan yn ei ddifyrrwch ei hûn. Eithr gwybydd (o ddŷn cnawdol) na fyn yr hollalluog Dduw mo'i wasanaethu ag hannêrau, o herwydd efe a greawdd ac a warêdodd yr holl ddŷn, Ac fel y mae Duw yn ffieddio gwasanaeth y dŷn oddiallan, heb y galon oddimewn, megis rhagrith: felly y mae ef yn cyfrif gwasanaeth oddimewn, heb anrhydedd oddiallan yn ffieiddbeth halogedig; y mae ef yn gofyn y ddau yn ei wasanaeth. Yn dy weddi (gan hynny) ymostwng ar dy liniau i dystiolaethu dy ostyngeiddrwydd: dercha dy olwg, a'th ddwylaw, i arwyddocau dy grediniaeth: gostwng dy ben i lawr, curâ dy ddwyfron, yn arwydd o'th edifeirwch: ac yn enwedig galw a'r Dduw â chalon bur: gwasanaetha ef yn sanctaidd, yn gyfan, ac yn vnig: Canys Duw, a thywysog y byd hwn, ydynt ddau Arglwydd gwrthwyneb iw gilydd, am hynny nid yw bossibl i neb wasanaethu 'r ddau.