A76257:480
Yr ymarfer o dduwioldeb in cyfarwyddo dŷn i rodio fall y rhyngo ef Fodd…Yr ymarfer o dduvvioldeb yn cyfarvvyddo dŷn i rodio fal y rhyngo ef Fodd…
Yr ymarfer o dduwioldeb in cyfarwyddo dŷn i rodio fall y rhyngo ef Fodd Duw. Yr hwn life â osodwyd allan in saeson-sec o wraith y gwir barchedig dâd Lewis Escomb Bangor, ac a gyfieithwyd in gamber-aec o waith Row. Vaughan o gaergai o sîr feirion wr bonheddig.Yr ymarfer o dduvvioldeb yn cyfarvvyddo dŷn i rodio fal y rhyngo ef Fodd Duw. Yr hwn lyfe â osodwyd allan yn saeson-sec o wraith y gwir barchedig dâd Lewis Escomb Bangor, ac a gyfieithwyd yn gamber-aec o waith Row. Vaughan o gaergai o sîr feirion wr bonheddig.
Printiedig in Llundain : gan Tho. Dawks, 1675Printiedig yn Llundain : gan Tho. Dawks, 1675
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Y chweched peth sy 'n rhwystro duwioldeb.
6. Ofn meddylgar, rhag i ymarfer a duwioldeb, wneuthur gŵr (in enwedig gwr jevangc) i fod in rhy brûdd ac in bendrwm: lle mewn gwirionedd ni eill neb gael llawenydd gwell, na mwy achos i orfoleddu na'r duwiol grefyddol gristion. O blegyd cyn gynted ac y maent hwy in cael eu cyfiawnhau drwy ffydd y mae iddynt danghneddyf gyd â Duw, Rhuf. 5, 2. A mwy llawenyd na hynny ni all fod. Heb law hynny y mae ganddynt eufys deyrnas y grâs wedi descyn iw calonnau, in sicrwydd y cânt (yr amser y gwelo Duw fod in dda) escyn i deyrnas ei ogoniant ef. In y deyrnas hon o râd y mae try pheth: in gyntaf cyfiawnder; Oblegid drwy gael cyfiawnder Christ iw cyfiawnhau ger bron Duw, y maent in bwriadu byw 'n gyfion o flaen dynion. Rhuf. 14.17. In ail tanghneddyf, canys y mae heddwch cydwybod, in anwahanol in canlyn ymarweddiad gyfiawn. In drydydd llawenydd yr Yspryd glân: yr hwn lawenydd in unig sydd iw gael mewn heddwch cydwybod dda, ac sydd uwchlaw pob deal, Phil. 4.7. ni eill ⟨p. 112⟩na thafod ei ddatcan, na chalon ei ddirnad, and in unig yr hwn sydd iw gaffael, a'i feddiannu. Dymma y cyflawndra llawenydd a addawodd Christ iw ddiscyblion ynghanol eu gorthrymderau; Llawenydd yr hwn ni allay neb ei ddwyn oddi arnynt. Joan, 16.22, 24. Mwyniant y llawenydd hwn yr oedd Dafydd (in ei edifeirwch) mor ddifrifol in ei erfyn a'r law Dduw: Dyro drachefn i mi lawenydd dy jechydwriaeth, Psal. 51.12. Ac os ydyw yr Angelion in y nefoedd, in llawenychu gymmaint ar droad pechadur: Luc. 15.10. Y mae 'n rhaid i lawenydd pechadur edifeiriol fod in dra-mawr arurhr in ei gallon ei hûn. Tristwch bydol sydd in odi mor gynnar am bennau dynion, ac in llenwi cwysau eu calonnau a gofidiau angau. Cystudd duwiol y rhai duwiol (pan welo Duw yr achos i'w profi hwynt) sydd in peri iddynt edifeirwch diedifeiriol: