Y chweched peth sy 'n rhwystro duwioldeb.
pp. 111–1133 passages
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Y chweched peth sy 'n rhwystro duwioldeb.
6. Ofn meddylgar, rhag i ymarfer a duwioldeb, wneuthur gŵr (in enwedig gwr jevangc) i fod in rhy brûdd ac in bendrwm: lle mewn gwirionedd ni eill neb gael llawenydd gwell, na mwy achos i orfoleddu na'r duwiol grefyddol gristion. O blegyd cyn gynted ac y maent hwy in cael eu cyfiawnhau drwy ffydd y mae iddynt danghneddyf gyd â Duw, Rhuf. 5, 2. A mwy llawenyd na hynny ni all fod. Heb law hynny y mae ganddynt eufys deyrnas y grâs wedi descyn iw calonnau, in sicrwydd y cânt (yr amser y gwelo Duw fod in dda) escyn i deyrnas ei ogoniant ef. In y deyrnas hon o râd y mae try pheth: in gyntaf cyfiawnder; Oblegid drwy gael cyfiawnder Christ iw cyfiawnhau ger bron Duw, y maent in bwriadu byw 'n gyfion o flaen dynion. Rhuf. 14.17. In ail tanghneddyf, canys y mae heddwch cydwybod, in anwahanol in canlyn ymarweddiad gyfiawn. In drydydd llawenydd yr Yspryd glân: yr hwn lawenydd in unig sydd iw gael mewn heddwch cydwybod dda, ac sydd uwchlaw pob deal,