Na fodlona mo honot dy hûn a'r grefydd ffurfiol, yr hon a luniodd gwyr diadenedig iddynt eu hunain, in lle duwioldeb ddiragrith; Canys mewn amldra opinionau, y mae y rhan fwyaf agos wedi colli yr ymarfer o wir ffydd. Na thebyg fod in Gristion digon da, o blegit dy fod di in gwneuthyd fell y mae y rhan fwyaf, ac o ran nad wye in gynddrwg a'r gwaethaf. Nid oes dŷn in y bid mor ddrygionus, a bod ei ymarweddiad in tueddu at bob mâth ar feiau. O herwydd y mae anghysondeb [Antipathi] rhwng rhai beiau a'i gilydd. And cofia beth y mae Christ in ei ddywedyd; Oddieithr i'ch cyfiawnder fod in helaethach na chyfiawnder yr scrifenyddion, a'r Pharasaeaid, nid ewch chwi i mewn mewn un mod i deyrnas nefoedd. Math. 5.20. Ystyria ynot dy hûn belled wit ti o ôl y Pharisaeiad mewn ymprydio, gweddio, mynych dramwy i'r Eglwys, a rhodi elusenau. Meddwl ynot dy hûn pa nifer O Baganiaid, y rhai nid adwaenent fedydd, etto mewn rhinweddau gwybodawl, a gonestrwydd buchedd, oeddynt in rhagori lawyer arnat ti. pale wrth hynny y mae bywyd Christ dy feistr? a pha cyn belled wit ti oddiwrth fod in wir Gristion? Os wit ti in ewyllysgar in ymroi i fyw mewn un mâth ar bechod anafus, nid eli di gael enaid adgenedledig; er i ti ddiwygio dy suchedd mal Herod oddiwrth lawyer o feiau eraill. Mar. 6.10. Y mae 'n rhaid i'r gwir gristion gymmeryd gofal i rodio mewn uniondeb calon, in ol holl orchmynnion Duw, in gystal in y nail a'r llall. ⟨p. 123⟩O blegit medd St. Jago, yr hwn a ballo mewn un pwngc o'r gyfraith (in ewyllysgar) sydd enog o'r cwbl. Jag. 2.10. Ac y mae Pedr in erchi i ni roddi heibio (nid peth) and holl lid, cynfigen, twill, a rhagrith, &c. 1 Pet. 2.1. Un pechod sydd ddigon er peri enaid in golledig, heb edifeirwch: Na freuddwydia am fined i'r nef rhyd ford negosach neu hawsach na 'r hon a linynniodd Duw i ni in ei Air. Nid ydyw 'r ford i'r nefoedd in hawdd, a chyffredin, and cull a chyfyng: Mat. 7.14. je cyn gyfynged ac y mae Christ in tystiolaethu, fod in anhawdd i din goludog fined i deyrnas nefoedd. Math. 19.23. A'r rheini sydd in mined i mewn, nid ydynt and ychydig: ac na eill yr ychydig ray hynny mor mined i mewn and trwy ymdrechu: a bod rhai o'r rheini â ymdrechant heb allu mined i mewn. Luc. 13.24. Hyn a wyddei holl Seintiau Duw (tra fuont fyw yma) in dda.
Na fodlona mo honot dy hûn a'r grefydd ffurfiol, yr hon a luniodd gwyr diadenedig iddynt eu hunain, yn lle duwioldeb ddiragrith; Canys mewn amldra opinionau, y mae y rhan fwyaf agos wedi colli yr ymarfer o wir ffydd. Na thebyg fod yn Gristion digon da, o blegit dy fod di yn gwneuthyd fel y mae y rhan fwyaf, ac o ran nad wye yn gynddrwg a'r gwaethaf. Nid oes dŷn yn y byd mor ddrygionus, a bod ei ymarweddiad yn tueddu at bob mâth ar feiau. O herwydd y mae anghysondeb [Antipathi] rhwng rhai beiau a'i gilydd. Ond cofia beth y mae Crist yn ei ddywedyd; Oddieithr i'ch cyfiawnder fod yn helaethach na chyfiawnder yr scrifenyddion, a'r Pharasaeaid, nid ewch chwi i mewn mewn un modd i deyrnas nefoedd. Math. 5.20. Ystyria ynot dy hûn belled wyt ti o ôl y Pharisaeiad mewn ymprydio, gweddio, mynych dramwy i'r Eglwys, a rhodi elusenau. Meddwl ynot dy hûn pa nifer O Baganiaid, y rhai nid adwaenent fedydd, etto mewn rhinweddau gwybodawl, a gonestrwydd buchedd, oeddynt yn rhagori llawer arnat ti. pa le wrth hynny y mae bywyd Crist dy feistr? a pha cyn belled wyt ti oddiwrth fod yn wir Gristion? Os wyt ti yn ewyllysgar yn ymroi i fyw mewn vn mâth ar bechod anafus, nid elli di gael enaid adgenedledig; er i ti ddiwygio dy suchedd mal Herod oddiwrth lawer o feiau eraill. Mar. 6.10. Y mae 'n rhaid i'r gwir gristion gymmeryd gofal i rodio mewn vniondeb calon, yn ol holl orchmynnion Duw, yn gystal yn y naill a'r llall. ⟨p. 123⟩O blegit medd St. Jago, yr hwn a ballo mewn vn pwngc o'r gyfraith (yn ewyllysgar) sydd enog o'r cwbl. Jag. 2.10. Ac y mae Pedr yn erchi i ni roddi heibio (nid peth) ond holl lid, cynfigen, twyll, a rhagrith, &c. 1 Pet. 2.1. Vn pechod sydd ddigon er peri enaid yn golledig, heb edifeirwch: Na freuddwydia am fyned i'r nef rhyd ffordd negosach neu hawsach na 'r hon a linynniodd Duw i ni yn ei Air. Nid ydyw 'r ffordd i'r nefoedd yn hawdd, a chyffredin, ond cul a chyfyng: Mat. 7.14. ie cyn gyfynged ac y mae Crist yn tystiolaethu, fod yn anhawdd i ddyn goludog fyned i deyrnas nefoedd. Math. 19.23. A'r rheini sydd yn myned i mewn, nid ydynt ond ychydig: ac na eill yr ychydig rai hynny mor myned i mewn ond trwy ymdrechu: a bod rhai o'r rheini â ymdrechant heb allu myned i mewn. Luc. 13.24. Hyn a wyddei holl Seintiau Duw (tra fuont fyw yma) yn dda.