5. Myfyria, mod na fwytai dy Arglwydd Jesus Grist, ddim ymborth un amser, nes iddo in gyntaf fendigo y creaduriaid, a rhoddi diolch i'w Dâd nefol am danynt. Ac in ôl ei swpper diweddaf, yr ydym in darllain iddo ef ganu Psalm. Luc. 9.16. ac 22.19. Mat. 14, 19. ac 26., 21, 30. Canys hyn oedd orchymyn Duw: Pan fwytteych, a'th ddigoni, yna y bendithi 'r Arglwydd dy Dduw, &c. Deut. 8.10. hynny oedd arfer y Prophwydi: canys ni fwytai y bobl ar eu gwleddoedd, nes i Samuel in gyntaf fendithio eu bwyd. 1 Sam. 9.13. Ac y mae Joel in dywedyd wrth bobl Dduw. Ina y bwyttewch, gan fwytta ac ymddigoni, ac y moliennwch enw 'r Arglwydd eich Duw. Joel. 2.16. Hyn hefyd a ymarferai ⟨p. 186⟩yr Apostolion: Canys yr oedd St Paul in y long in rhoddi diolch cyn bwyd yngŵydd yr holl bobl oedd ynddi Act. 27.35. Gwna gan hynny in y faith sanctaidd weithred, ar ôl y fáth Feistr bendigedig, a dilyn y cyfryw nifer o athrawon teilwng, a'i canlynodd ef, ac a aethant o'th flaen di. Fe al•ai o herwydd nad arferaist erioed o dalu diolch ar brydian, am hynny y bid cywilydd gennit yr awrhon fined i ddechrau. Na thybia in gywilydd it wneuthur y peth a wnaeth Christ; eithr in hytrach bydded cywilydd gennit ddarfod i ti esceuluso cyhyd y cyfryw ddyledus orchwyl Cristianogawl. Ac os rhoddodd Mâb Duw y fàth ddiolch i'w Dâd nefol am y ciniaw o fara haidd ac ychydig byscod; Joa. 6.9. pa fâth ddiolch a ddilai y fâth din pechadurus ac wit ti, dalu i Dduw am y cyfryw amlder o ddanteithion moethus? pa gynnifer o wir gristianogion, a lawenent gael llenwi eu boliau a'r tammeidiau yr wit ti in eu gwrthod, ac sydd arnynt eisiau yr hyn yr wit ti in ei weddill? mor galled y mae rhai eraill in gweithio am eu hymborth, a thithau in cael dy lyniaeth gwedi ei baratoi it, heb arnat na phoen na gofal? i ddibennu, os oedd delw-addolwyr Paganaidd in eu gwleddoedd, ynarfer o foliannu eu gau dduwiau; Dan. 5.1.4. Pa gywilydd ydyw i gristion, na folianna y Gwir Dduw (ar ei giniaw neu ei swpper) in yr hwn yr ydym ni in byw, in symmud, ac in bôd: Act. 17.28.
5. Myfyria, modd na fwytai dy Arglwydd Jesu Grist, ddim ymborth vn amser, nes iddo yn gyntaf fendigo y creaduriaid, a rhoddi diolch i'w Dâd nefol am danynt. Ac yn ôl ei swpper diweddaf, yr ydym yn darllain iddo ef ganu Psalm. Luc. 9.16. ac 22.19. Mat. 14, 19. ac 26., 21, 30. Canys hyn oedd orchymyn Duw: Pan fwytteych, a'th ddigoni, yna y bendithi 'r Arglwydd dy Dduw, &c. Deut. 8.10. hynny oedd arfer y Prophwydi: canys ni fwytai y bobl ar eu gwleddoedd, nes i Samuel yn gyntaf fendithio eu bwyd. 1 Sam. 9.13. Ac y mae Joel yn dywedyd wrth bobl Dduw. Yna y bwyttewch, gan fwytta ac ymddigoni, ac y moliennwch enw 'r Arglwydd eich Duw. Joel. 2.16. Hyn hefyd a ymarferai ⟨p. 186⟩yr Apostolion: Canys yr oedd St Paul yn y llong yn rhoddi diolch cyn bwyd yngŵydd yr holl bobl oedd ynddi Act. 27.35. Gwna gan hynny yn y fath sanctaidd weithred, ar ôl y fáth Feistr bendigedig, a dilyn y cyfryw nifer o athrawon teilwng, a'i canlynodd ef, ac a aethant o'th flaen di. Fe al•ai o herwydd nad arferaist erioed o dalu diolch ar brydian, am hynny y bydd cywilydd gennit yr awrhon fyned i ddechrau. Na thybia yn gywilydd it wneuthur y peth a wnaeth Crist; eithr yn hytrach bydded cywilydd gennit ddarfod i ti esceuluso cyhyd y cyfryw ddyledus orchwyl Cristianogawl. Ac os rhoddodd Mâb Duw y fàth ddiolch i'w Dâd nefol am y ciniaw o fara haidd ac ychydig byscod; Joa. 6.9. pa fâth ddiolch a ddilai y fâth ddyn pechadurus ac wyt ti, dalu i Dduw am y cyfryw amlder o ddanteithion moethus? pa gynnifer o wir gristianogion, a lawenent gael llenwi eu boliau a'r tammeidiau yr wyt ti yn eu gwrthod, ac sydd arnynt eisiau yr hyn yr wyt ti yn ei weddill? mor galed y mae rhai eraill yn gweithio am eu hymborth, a thithau yn cael dy lyniaeth gwedi ei baratoi it, heb arnat na phoen na gofal? i ddibennu, os oedd delw-addolwyr Paganaidd yn eu gwleddoedd, ynarfer o foliannu eu gau dduwiau; Dan. 5.1.4. Pa gywilydd ydyw i gristion, na folianna y Gwir Dduw (ar ei giniaw neu ei swpper) yn yr hwn yr ydym ni yn byw, yn symmud, ac yn bôd: Act. 17.28.