A76257:773
Yr ymarfer o dduwioldeb in cyfarwyddo dŷn i rodio fall y rhyngo ef Fodd…Yr ymarfer o dduvvioldeb yn cyfarvvyddo dŷn i rodio fal y rhyngo ef Fodd…
Yr ymarfer o dduwioldeb in cyfarwyddo dŷn i rodio fall y rhyngo ef Fodd Duw. Yr hwn life â osodwyd allan in saeson-sec o wraith y gwir barchedig dâd Lewis Escomb Bangor, ac a gyfieithwyd in gamber-aec o waith Row. Vaughan o gaergai o sîr feirion wr bonheddig.Yr ymarfer o dduvvioldeb yn cyfarvvyddo dŷn i rodio fal y rhyngo ef Fodd Duw. Yr hwn lyfe â osodwyd allan yn saeson-sec o wraith y gwir barchedig dâd Lewis Escomb Bangor, ac a gyfieithwyd yn gamber-aec o waith Row. Vaughan o gaergai o sîr feirion wr bonheddig.
Printiedig in Llundain : gan Tho. Dawks, 1675Printiedig yn Llundain : gan Tho. Dawks, 1675
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
9. O blegid fod yr Arglwydd ei hun in hyspysu may diben neu 'r achos o'r Sabbath yw bod in arwydd ac in athrawiaeth dragwyddol rhyngddo ef ai bobl, may efe yw 'r Jehovah trwy 'r hwn y Sancteiddir hwynt, ac am hynny rhaid iddo ef in unig gael ei addoli ganddynt: a than boen cospedigaeth marwolaeth, y mae 'n gorchymmyn ei bobl in dragywydd i gadw hyn o gossadwriaeth in ddi-halog. Exod. 31.13.14. Eithr y defnydd, a'r diwedd hwn sydd foesol a thragwyddol. Am hynny y mae 'r Sabbath in foesol ac in dragywyddol. y peth a sancteiddiodd Duw in dragywydd, na ryfyged un dŷn ei wneuthur in gyffredin, neu in halogedig. Ar y sail hon, y mae 'r gorchymmyn in galw y did hwn, Sabbath yr Arglwydd dy Dduw, ac y mae Duw ei hun in ei alw ei did sanctaidd. Ac ar yr unrhyw sail hefyd, y cyssegrodd yr hên Destament ei holl Sabathau, a'i ddydiau gwylion, i addoli, ac anrhydeddu Duw in unig. Gosod Sabbath gan hynny er anrhydedd i nebryw greadur, sydd bechod gorthrwm, a ffiaidd ddelw addoliad. Canys y mae'r llech gyntaf in ei wneuthur in rhan o addoliad Duw, fod Sabbath i'w anrhydedd ef. Felly in Levit. 23.3.37.38. &c. Ac in Ezec. 20.20. Neh. 9.14. Y Sabbath a roddir ar lawr am holl addoliad Duw. Ac y mae ein Jachawdwr in dyscu fod in rhaid i ni addoli yr Arglwydd Dduw in unig. Mat. 4. Am hynny cadw Sabbath er anrhydedd i Dduw in unig. Y mae 'r Yspryd glân in adrodd ei fod in un o bechodau mwyaf Jeroboam ddarfod iddo orchymmyn uchelwyl in ol dychymyg ei gallon ei hun. 1 Burn. 12.33. Ac y mae Duw in bygwth ymweled a• Israel a'm gadw dyddïau Baalim, hynny yw, yr Arglwyddi, megis y gwna 'r papistaid i'r Seinctiau, Hos. 2.13. a dywed fod y cyfryw ⟨p. 223⟩in ei anghofio ef. Ac mewn Gwirionedd nid oes neb lay ei gofal i gadw Sabbath yr Arglwydd, na 'r rhai sydd fwyaf eu hofergoelion i gadw gwyliau a dyddiau dynion. Am hynny mae Eglwys Rufain in arferu gorthrwm ddelw-addoliad.