ac er fy mod in effro, yr oedd fy meddwl yngwibio yma a thraw, in lawn o waged a meddyliau bydol, fell yr oedd fy enaid megis in absennol, ac heb fod in yr Eglwys. Ni ddarfu i mi (fell y dylaswn) fyfyrio wrthif fy hunan, na sôn, na chrybwyll wrth fy nheulu, am yr addysc dda a glyswn, ac a dderbyniaswn ni allan o'th Air sanctaidd, gan dy wenidog ffyddlawn. O herwydd hynny, fe ddarfu i Satan ledratta y rhan fwyaf o'r athrawiaethau hynny allan o'm calon, a minnau greadur truan a'i gollyngais tros gôf, megis pe buaswn erioed, heb eu clywed. Ac nid yw fy nhylwyth in mined rhagddynt mewn gwybodaeth, a sancteiddrwydd fell y dylent. Ac er i mi wybod lle mae lawyer o'm brodyr tlodion in byw mewn eisiau, a rhai mewn dolur in ddi-gynnorthwy: etto ni chofiais i synnied ar y nail am helusenau, ac a'r y lleill am cyssurau: eithr ymwledda fy hun, a phorthi fy nhrachwantau.1 Mi dreiliais y rhan fwyaf o'r diwrnod, mewn siarad offer, chwaryddiaeth ddiles, ac arferion coeglyd. Je Arglwydd fe ddarfu, &c. Ac am yr holl bechodau ⟨p. 253⟩hyn, y mae fynghydwybod in llefain fy mod in evog; dy gyfraith in fyngondemnio; ac yr wyf in sefyll tan dy law i dderbyn y farn, a'r felldith ddyledus am dory in ewyllyscar y faith orchymmyn sanctaidd. Eithr beth er fy mod gwedi fy evog-farnu wrth dy gyfraith? Etto Arglwydd y mae dy Efengyl i'm sicrhau fod dy drugaredd uwchlaw dy holl weithredoedd: a bod dy râs in mined tu hwnt i'r gyfraith, a bod dy ddaioni in hoffi aros i lywodraethu, lle yr oedd pechodau in amlhau. Gan hynny in amlder dy drugareddau, ac in haeddedigaethau Jesus Grist, fy Jachawdwr, yr wyf in attolwg i ti O Arglwydd (yr hwn nid wit in diystyru calon orthrymedig, nac in deisyfu marwolaeth pechadur ediferiol) faddau, a gollwng tros gôf, fy holl bechodau am beiau y did hwn, a phob did o'm bywyd; a rhyddhau fy enaid oddiwrth y farn a'r felldith sydd ddyledus i mi am danynt. Ty di yr hwn a gyfiawnhevaist y Publican drylliedig ei gallon am chwe gair o gifts, ac a dderbynniaist y Mab afradlon, (wedi darfod iddo ddifa ei holl gynhysgaeth o'th râd ti) i'th ffafr drachefn, ar ei edifeirwch: maddeu fy mhechodau i minnau un agwedd, O Arglwydd, ac na chynnwys i mi fod in golledig am fy anwireddau. Oh arbed fi, a derbyn fi i'th drugaredd drachefn. A wrthodi di fi o Arglwydd yr hwn wit in derbyn yr holl Bublicanod, Puteinaid, a phechaduriaid, ar a edifarhao ac a erfynnio nawdd ar dy law di?
ac er fy mod yn effro, yr oedd fy meddwl yngwibio yma a thraw, yn llawn o wagedd a meddyliau bydol, fel yr oedd fy enaid megis yn absennol, ac heb fod yn yr Eglwys. Ni ddarfu i mi (fel y dylaswn) fyfyrio wrthif fy hunan, na sôn, na chrybwyll wrth fy nheulu, am yr addysc dda a glyswn, ac a dderbyniaswn ni allan o'th Air sanctaidd, gan dy wenidog ffyddlawn. O herwydd hynny, fe ddarfu i Satan ledratta y rhan fwyaf o'r athrawiaethau hynny allan o'm calon, a minnau greadur truan a'i gollyngais tros gôf, megis pe buaswn erioed, heb eu clywed. Ac nid yw fy nhylwyth yn myned rhagddynt mewn gwybodaeth, a sancteiddrwydd fel y dylent. Ac er i mi wybod lle mae llawer o'm brodyr tlodion yn byw mewn eisiau, a rhai mewn dolur yn ddi-gynnorthwy: etto ni chofiais i synnied ar y naill am helusenau, ac a'r y lleill am cyssurau: eithr ymwledda fy hun, a phorthi fy nhrachwantau.1 Mi dreiliais y rhan fwyaf o'r diwrnod, mewn siarad ofer, chwaryddiaeth ddiles, ac arferion coeglyd. Ie Arglwydd fe ddarfu, &c. Ac am yr holl bechodau ⟨p. 253⟩hyn, y mae fynghydwybod yn llefain fy mod yn euog; dy gyfraith yn fyngondemnio; ac yr wyf yn sefyll tan dy law i dderbyn y farn, a'r felldith ddyledus am dorri yn ewyllyscar y fath orchymmyn sanctaidd. Eithr beth er fy mod gwedi fy euog-farnu wrth dy gyfraith? Etto Arglwydd y mae dy Efengyl i'm sicrhau fod dy drugaredd vwchlaw dy holl weithredoedd: a bod dy râs yn myned tu hwnt i'r gyfraith, a bod dy ddaioni yn hoffi aros i lywodraethu, lle yr oedd pechodau yn amlhau. Gan hynny yn amlder dy drugareddau, ac yn haeddedigaethau Jesu Grist, fy Iachawdwr, yr wyf yn attolwg i ti O Arglwydd (yr hwn nid wyt yn diystyru calon orthrymedig, nac yn deisyfu marwolaeth pechadur ediferiol) faddau, a gollwng tros gôf, fy holl bechodau am beiau y dydd hwn, a phob dydd o'm bywyd; a rhyddhau fy enaid oddiwrth y farn a'r felldith sydd ddyledus i mi am danynt. Ty di yr hwn a gyfiawnheuaist y Publican drylliedig ei galon am chwe gair o gyffes, ac a dderbynniaist y Mab afradlon, (wedi darfod iddo ddifa ei holl gynhysgaeth o'th râd ti) i'th ffafr drachefn, ar ei edifeirwch: maddeu fy mhechodau i minnau vn agwedd, O Arglwydd, ac na chynnwys i mi fod yn golledig am fy anwireddau. Oh arbed fi, a derbyn fi i'th drugaredd drachefn. A wrthodi di fi o Arglwydd yr hwn wyt yn derbyn yr holl Bublicanod, Puteinaid, a phechaduriaid, ar a edifarhao ac a erfynnio nawdd ar dy law di?
- 1Yma y jelly gyfaddef pa fai bynnac a wnaethost y dwthwn hwnnw, ac â dwys ochenaid dywedyd.Yma y gelli gyfaddef pa fai bynnac a wnaethost y dwthwn hwnnw, ac â dwys ochenaid dywedyd.